Mam yn cario bachgen bach

Hwb ariannol i bartneriaeth ymchwil iechyd mamau a babanod newydd

5 Mai

Mae cydweithrediad ymchwil newydd sydd â’r nod o gyflymu galluoedd a gwella ymchwil ar iechyd mamau a babanod wedi cael hwb ariannol o £1.4 miliwn.

Mae’r bartneriaeth Dadansoddi Data Electronig Mamau a Babanod (MIREDA), dan arweiniad y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth sy’n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi derbyn y grant gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC).

Mae tlodi, anfantais ac iechyd gwael cysylltiedig yn aml yn dechrau yng nghyfnodau cynharaf bywyd gydag ymddygiad fel defnyddio cyffuriau ac alcohol yn effeithio ar ddatblygiad babi, cyn, ac ar ôl geni, gyda goblygiadau sy’n gallu para am oes.

Nod MIREDA yw gwella iechyd mamau a babanod, yn enwedig ymhlith grwpiau difreintiedig drwy ddatblygu adnoddau ac offer newydd ar gyfer ymchwil gan ddefnyddio data sy’n cael ei gasglu’n rheolaidd.

Mae ymdrin ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas yn dechrau gyda gwella iechyd mamau a babanod newydd-anedig. O ystyried heriau cymdeithasol ac economaidd gan gynnwys gordewdra cynyddol, costau byw cynyddol, anghydraddoldeb a rhannau mawr o gymdeithas yn wynebu tlodi ac amddifadedd, nid yw hi erioed wedi bod yn bwysicach i allu deall y ffordd orau o ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd MIREDA yn llunio dealltwriaeth ac yn llywio ymyriadau drwy:

  • Greu adnodd yn y DU sy’n cynnwys data iechyd mamau a charfannau geni babanod wedi’i gysoni sy’n gysylltiedig â setiau data lleol mewn iechyd cyhoeddus, iechyd newyddenedigol, delweddu, gofal sylfaenol ac ysbytai;
  • Sefydlu cydweithio amlddisgyblaethol i wneud dadansoddiad ym mhob carfan heb fod angen symud y data;
  • Datblygu dulliau ar gyfer safoni data a rheoli data cyffredin ar draws setiau data a gweithredu meddalwedd ar gyfer awtomeiddio dulliau astudio epidemiolegol;
  • Gweithio gydag eraill i ddatblygu gallu a rhwydweithiau ymchwil yn y maes, gan ddefnyddio gweithdai ar-lein ac wyneb yn wyneb, seminarau, cynadleddau, a chyfarfodydd grwpiau datblygu ymchwil i rannu gwybodaeth a sgiliau; a
  • Darparu arian sefydlu i gefnogi ymchwilwyr addawol y dyfodol a chydweithio rhyngwladol ym maes iechyd mamau a babanod. Bydd hefyd yn manteisio i’r eithaf ar arian ychwanegol ar gyfer ymchwil i wella gofal mamau a chanlyniadau babanod.

Dywedodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Iechyd a  Llesiant y Boblogaeth ac arweinydd y bartneriaeth:

Mae’r Ganolfan wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran datblygu galluoedd iechyd y boblogaeth ac ymchwil ynghylch iechyd mamau a babanod. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’n partneriaid yn ystod y tair blynedd nesaf i ddatblygu a darparu MIREDA.

"Nid yw amseru’r bartneriaeth hon erioed wedi bod yn bwysicach. Wrth i anfantais ac amddifadedd ddod yn faterion cymdeithasol mwy taer nag erioed, mae’n dod yn fater o frys fwyfwy i liniaru’r risgiau i iechyd mamau a babanod sydd wedi’u cysylltu’n gryf â nhw.

"Oherwydd bod data mawr wedi ehangu, mae nifer o setiau data mamau a babanod o amgylch y DU y byddai modd i ymchwilwyr eu cysoni, eu dadansoddi a’u cymharu. Ond mae’r mynediad, y llywodraethu, y gallu cyfrifiadurol a’r sgiliau dadansoddi sydd eu hangen i gyd yn rhwystrau difrifol. Bydd MIREDA yn datblygu’r adnoddau, y seilwaith a’r arbenigedd sydd eu hangen i ddileu’r rhwystrau hyn – gan alluogi ymchwilwyr yn y DU i ddatblygu ymchwil ar iechyd mamau a babanod – i wella canlyniadau cwrs bywyd a helpu i dorri cylch tlodi."

Ychwanegodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Rydym yn falch iawn o weld y bartneriaeth arloesol a chyffrous hon yn rhoi iechyd mamau a babanod ar flaen y gad yng ngallu ymchwil Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weld partneriaeth MIREDA yn datblygu gyda chydweithwyr o bob rhan o’r DU a gyda chefnogaeth werthfawr gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), er mwyn helpu i wella canlyniadau bywyd gwirioneddol ym maes iechyd mamau a babanod."

Mae’r bartneriaeth yn dwyn ynghyd ymchwilwyr blaenllaw o Wyddor Data Poblogaeth yn Abertawe, Prifysgol Caeredin, King’s College Llundain, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Birmingham a Sefydliad Ymchwil Iechyd Bradford.