Arolwg Lles COVID-19 Cymru 2: sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar eich lles?
Mae astudiaeth Lles Cymru wedi lansio ail arolwg i ddarganfod sut mae'r pandemig coronafeirws parhaus wedi effeithio ar les pobl Cymru.
Cychwynnwyd arolwg lles COVID-19 cyntaf Cymru gan y GIG yng Nghymru ym mis Mehefin 2020 mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a phob un o'r saith Bwrdd Iechyd.
Casglodd cam cyntaf yr arolwg ddata gan dros 15,000 o unigolion ledled Cymru ac mae canfyddiadau hyn wedi helpu'r GIG i ddeall anghenion iechyd meddwl a lles pobl yng Nghymru. Gallwch ddarllen mwy am ganfyddiadau'r ymchwil ar wefan astudiaeth Lles Cymru
Nod yr ail arolwg yw archwilio sut mae iechyd meddwl a lles pobl wedi newid yn ystod pandemig y coronafeirws.
Gallwch gwblhau'r arolwg ar-lein, a dylai ond gymryd 10-15 munud.
Gallwch hefyd gymryd rhan yn yr arolwg drwy’r post.