Arolwg: Sut ydych chi’n defnyddio Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd?
Cafodd Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2019 a’u nod yw gwella ansawdd a chysondeb cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil.
Flwyddyn yn ddiweddarach, fe hoffen ni glywed sut rydych chi’n dod â’r safonau yn fyw yn eich gwaith.
Mae Canolfan Ymgysylltu a Lledaenu’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn gweithio’n agos â phartneriaeth y Safonau (sy’n cynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, Swyddfa Prif Wyddonydd yr Alban) i gynnal arolwg o’ch profiadau wrth ddefnyddio Safonau’r DU.
Os ydych chi wedi chwarae rhan mewn ymchwil a oedd yn defnyddio Safonau’r DU, fel ymchwilydd neu fel aelod o’r cyhoedd, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg a rhannu’ch barn.
Mae yna fwy am Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd yma.