Andrew Carson-Stevens talking at an event

Arweinwyr Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

17 Ebrill

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn recriwtio pedwar Arweinydd Arbenigol (bydd y penodiadau tan ddiwedd mis Mawrth 2028):

  • Cardiofasgwlaidd
  • Hepatoleg
  • Gofal Lliniarol
  • Iechyd y Cyhoedd

Mae Arweinwyr Arbenigol yng Nghymru yn darparu cymorth strategol pwysig fel rhan o Wasanaeth Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Maent yn darparu ymgysylltiad cryf ar lefel y DU i Gymru ym maes monitro portffolio ymchwil glinigol a chyflenwi ymchwil. 

Fel Arweinydd Arbenigedd Cymru, byddwch yn arweinydd clinigol profiadol a safon uchel, sy'n gallu ennill parch cydweithwyr ledled y DU. Byddwch yn deall anghenion a blaenoriaethau cyflawni ymchwil GIG Cymru yn eich maes arbenigedd ac yn hyrwyddo'r broses o dderbyn astudiaethau. Bydd gennych y sgiliau i rwydweithio'n effeithiol, gan ennyn brwdfrydedd cydweithwyr y GIG yng Nghymru i gymryd rhan effeithiol mewn ymchwil.

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais a chyflwynwch yr atodiadau cysylltiedig erbyn 09:00 ar 19 Mai 2025SpecialtyLeadsSupport@wales.nhs.uk

I gael rhagor o gefndir, rhestr o dasgau allweddol, manyleb person a gwybodaeth am gymorth ariannol a chymorth arall, gweler pecyn gwybodaeth Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

Ar gyfer ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â'r canlynol:

  • Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi 
  • Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil Nyrsys, Bydwragedd a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
  • Yvette Ellis, Pennaeth Cenedlaethol Gweithrediadau Cyflenwi Ymchwil

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 09:00 19 Mai 2025

Hysbysiad o'r canlyniad: diwedd Mai 2025

Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl

D.S: Dylai ymgeiswyr nodi y gellir eu gwahodd i gyfweliad.