Dr Rob Jones, un o Arweinwyr Arbenigeddau, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Arweinydd Arbenigedd a’i dîm yn llwyddo i dorri tir newydd ym maes gofal canser y fron

Mae ymchwil sydd wedi’i chydnabod yn rhyngwladol, dan arweiniad Dr Rob Jones, un o Arweinwyr Arbenigeddau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi darganfod bod modd rheoli canser y fron diwella yn well trwy gyfuno therapi ymchwiliol â thriniaeth safonol, a allai fod o fudd i filiynau o bobl.

Mae diagnosis o ganser y fron yn gallu bod yn frawychus iawn, a bydd un ym mhob saith merch yn cael diagnosis o’r clefyd yn ystod eu hoes. Mae’r diagnosis hwn yn achosi mwy fyth o ofid os y dywedir nad oes gwella ar eich canser. Gallai astudiaeth FAKTION roi gobaith i’r cleifion hyn o allu rheoli eu canser am ddwywaith mor hir.

Bu Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, y Ganolfan Treialon Ymchwil a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru’n cefnogi FAKTION, a oedd yn ceisio darganfod a fedrai ymchwilwyr wrthdroi neu ohirio ymwrthedd i therapi hormonau mewn gwragedd ar ôl y menopos y mae eu canser wedi ymledu, trwy ychwanegu therapi wedi’i dargedu o’r enw Capivasertib at therapïau presennol.

“Mae budd cynyddol Capivasertib yn hynod o arwyddocaol ac mae’r treial yn cynnwys cleifion â ffurf gyffredin iawn o ganser y fron. Er enghraifft, mae yna 55,000 o achosion newydd o ganser y fron yn y DU bob blwyddyn, ac mae tua thri chwarter ohonyn nhw’n ganserau’r fron â derbynyddion estrogen positif. Mae hynny’n cyfateb i filiynau o gleifion ledled y byd a fyddai o bosibl yn elwa o’r darganfyddiad hwn,” meddai Dr Jones.

Cafodd tîm astudiaeth FAKTION, a oedd yn cynnwys nyrs ymchwil a chymrawd ymchwil wedi’u hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ei enwebu gan Astra Zeneca am yr ymchwil hon sy’n newid bywydau, i dderbyn gwobr y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Canser (NCRI) am yr ymchwil sydd wedi cael yr effaith fwyaf a wnaed yn y DU yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Mae’r ymchwil wedi datblygu i fod yn dreial cyfnod tri, lle bydd y cyfuniad ymchwiliol yn cael ei roi ar brawf mewn nifer fwy o gleifion, cyn y gellir gwneud unrhyw argymhellion i’w mabwysiadu fel triniaeth safonol newydd yn y GIG.

 


Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 7, Tachwedd 2019