'Asesiad Gwybyddol Ar-lein Caerdydd (Cardiff ONline Cognitive Assessment - CONCA): Offeryn ar-lein ar gyfer monitro clinigol gwybyddiaeth mewn cleifion sydd â seicosis'

Cefndir:

Gall pobl sy'n cael diagnosis o anhwylderau seicotig, fel sgitsoffrenia, brofi problemau gyda'u cof, sylw a sgiliau datrys problemau.  Gall hyn amrywio o fân broblemau cofio pethau i broblemau mwy difrifol sy'n effeithio ar waith, cartref a bywyd cymdeithasol yr unigolyn.  Mae ymchwil wedi dangos nad yw'r problemau hyn yn gwella pan fydd symptomau eraill wedi gwella.  Maent yn ymddangos cyn diagnosis ac nid yw'r triniaethau presennol yn helpu.  I ganfod y problemau hyn, gallwn ddefnyddio tasgau (fel gemau neu bosau) sy'n profi cof, sylw a datrys problemau.  Er nad oes unrhyw driniaethau ar gyfer y problemau hyn ar gael ar hyn o bryd i'w defnyddio mewn gwasanaethau, mae'n dal yn ddefnyddiol eu mesur oherwydd eu bod yn rhagweld y bobl sydd fwyaf tebygol o brofi anabledd oherwydd eu salwch.  Fodd bynnag, nid ydynt yn cael eu defnyddio mewn clinigau oherwydd amser a chost ac oherwydd nad yw staff wedi'u hyfforddi i'w defnyddio.                                           

Nod:

Byddaf yn profi offeryn ymchwil (Asesiad Gwybyddol Ar-lein Caerdydd, sef CONCA) i benderfynu a ellir ei ddefnyddio i brofi cleifion mewn clinig. Mae CONCA wedi cael ei ddefnyddio mewn ymchwil iechyd meddwl ers blynyddoedd lawer.  Fe'i cynlluniwyd gyda mewnbwn gan bobl sydd â phrofiad byw ac mae'n rhoi gwybodaeth hawdd ei darllen am berfformiad y defnyddiwr. Fodd bynnag, nid yw wedi cael ei brofi fel offeryn clinigol.  Byddaf yn gofyn cwestiynau i gleifion a gweithwyr gofal iechyd ynghylch a ydynt yn ei chael hi'n hawdd ei ddefnyddio, ac yn ddefnyddiol.         

Y dyluniad a'r dulliau a ddefnyddir: 

Mae gan y prosiect hwn dair rhan.  Yn rhan 1, byddaf yn cyfweld cleifion a gweithwyr gofal iechyd ynglŷn â defnyddio CONCA.  Byddaf yn gofyn iddynt am eu barn a'u syniadau ar sut y gellid defnyddio CONCA yn y clinig.  Yn rhan 2, byddaf yn gwahodd grŵp mawr o bobl sydd â seicosis i gwblhau CONCA. Byddant yn cwblhau CONCA ddwywaith fel y gallaf edrych a yw sgoriau pobl yn gyson dros amser.  Yn rhan 3, byddaf yn defnyddio ein canlyniadau o rannau 1 a 2 i wella'r offeryn CONCA.  Byddaf yn creu cynllun ar gyfer profion y cam nesaf a mwy.                                                     
Cynnwys y Cyhoedd: 

Fe wnes i greu CONCA trwy weithio gyda chleifion a gweithwyr iechyd.  Awgrymodd y gallai fod yn ddefnyddiol yn y clinig.  Byddaf yn parhau i weithio gyda'r grwpiau hyn i brofi CONCA.  Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i'w wella a gwneud cynlluniau ar gyfer cam nesaf y profion.  Mae cynrychiolwyr cleifion wedi adolygu'r prosiect hwn ac wedi awgrymu golygiadau.   

Lledaenu: 

Byddaf yn rhannu fy nghanlyniadau gyda gwyddonwyr trwy siarad mewn cynadleddau ac ysgrifennu mewn cyhoeddiadau a chylchgronau sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Byddaf hefyd yn rhannu fy nghanlyniadau'n ehangach, gan gynnwys gyda phobl sydd â phrofiad byw, gofalwyr, y GIG, y llywodraeth, elusennau, a'r cyhoedd yn gyffredinol. Byddaf yn gwneud hyn trwy'r cyfryngau cymdeithasol a negeseuon blog, defnyddio graffeg a fideos a chynnal digwyddiadau. Bydd ein cynrychiolwyr cleifion yn cymryd rhan weithredol wrth ledaenu'r canlyniadau.

Gweithredol
Research lead
Dr Amy Joanne Lynham
Swm
£489,116
Statws
Yn weithredol
Dyddiad cychwyn
1 Hydref 2024
Dyddiad cau
30 Medi 2027
Gwobr
Health and Care Research Wales Advanced Fellowship Award
Cyfeirnod y Prosiect
AF-24-01