
Mustafa Aslan
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Doctoral Training Partnerships – ESRC
Bywgraffiad
Mae Mustafa yn fyfyriwr PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd sy’n canolbwyntio ar wella cydlynu gofal rhyddhau mewn gofal iechyd a gofal cymdeithasol trwy fodelu tebygolrwydd, Deallusrwydd Artiffisial a dysgu peirianyddol.
Nod ei ymchwil yw gwella dyrannu adnoddau, gwneud penderfyniadau ac ansawdd gofal. Mae'n angerddol am gymhwyso modelau mathemategol, dysgu peirianyddol a thechnegau optimeiddio i fynd i'r afael â heriau go iawn ym meysydd gofal iechyd a gofal cymdeithasol.