Astudiaeth Cynllunio Beichiogrwydd Seicosis Deubegynol ac Ôl-enedigol: datblygu canllaw rhyngweithiol i fenywod sy'n wynebu risg uchel

Crynodeb diwedd y prosiect

Mae gan fenywod sydd ag anhwylder deubegynol neu seicosis ôl-enedigol blaenorol risg uchel o brofi salwch meddwl difrifol yn ystod y cyfnod amenedigol. Mae menywod wedi dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â beichiogrwydd.  
 

Nod y prosiect hwn oedd datblygu canllaw cynllunio beichiogrwydd ar gyfer menywod sydd ag anhwylder deubegynol a/neu seicosis ôl-enedigol blaenorol. Y nodau penodol oedd pennu'r canlynol: (i) cydrannau critigol y canllaw, (ii) pa mor dderbyniol ydyw, a  (iii) dichonoldeb Hap-dreial Rheoledig (HRh) graddfa fwy o'r canllaw. 
 

Roedd y broses yn dilyn canllawiau'r Cyngor Ymchwil Meddygol (CYM) ar ddatblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth (Craig et al. 2008). Llywiodd adolygiad o wybodaeth ar-lein sydd ar gael i fenywod, ynghyd â chyfweliadau ansoddol â menywod â phrofiad byw o anhwylder deubegynol a / neu seicosis ôl-enedigol (n=8), a gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'u gofal (n=14), brototeip cychwynnol y canllaw. Dadansoddwyd cyfweliadau ansoddol gan ddefnyddio proses o ddadansoddiad thematig atblygol (Braun a Clarke 2006; Braun a Clarke 2019). Roedd prototeip cychwynnol y canllaw yn destun dau gam o dreialu (peilot un: naw cyfranogwr; peilot dau: wyth cyfranogwr) ac wedi'i fireinio ar bob cam yn seiliedig ar adborth ansoddol a meintiol. 
 

Prototeip olaf y canllaw oedd canllaw tudalennau rhydd 88 tudalen gydag adrannau i fenywod eu personoli. Ar y cyfan, roedd y canllaw yn dderbyniol i fenywod. Gostyngwyd sgorau gwrthdaro penderfyniadol (sy'n cynrychioli llai o ansicrwydd) ar ôl defnyddio'r canllaw o gymharu ag o'r blaen.  Nid oedd data cyfranogwyr ar symptomau hwyliau yn dangos unrhyw effaith negyddol glir o ddefnyddio'r canllaw.  Roedd y canllaw yn ymddangos yn fwyaf addas i'r rhai a oedd eisoes wedi derbyn mewnbwn proffesiynol arbenigol, oherwydd ar gyfer menywod eraill gall y canllaw ymddangos yn llethol. 
 

I gloi, gellir defnyddio iteriad presennol y canllaw orau i ategu gofal o fewn cyd-destunau iechyd meddwl amenedigol arbenigol.  Cyn defnyddio HRh ar raddfa fwy, argymhellir gwaith datblygu pellach, er enghraifft, gallai hyn gynnwys teilwra'r canllaw ymhellach a threialu ei ddefnydd ochr yn ochr â mewnbwn gan weithwyr proffesiynol.
 

Wedi'i gwblhau
Research lead
Yr Athro Ian Jones
Swm
£66,000
Statws
Wedi’i gwblhau
Dyddiad cychwyn
1 Hydref 2018
Dyddiad cau
30 Medi 2021
Gwobr
Health PhD Studentship Scheme
Cyfeirnod y Prosiect
HS-18-33(T)
UKCRC Research Activity
Management of diseases and conditions
Research activity sub-code
Management and decision making