Astudiaethau Iechyd Cyhoeddus Brys COVID-19 – Talu costau ymchwil

2 Gorffennaf

Mae pryderon wedi’u codi ledled y DU bod y costau sydd wedi’u pennu ar gyfer rhai astudiaethau Iechyd Cyhoeddus Brys COVID-19 yn rhy fach a/ neu fod y cyllid y mae rhai yn ei dderbyn rhy fach o ran gweithgareddau y mae AcoRD wedi’u diffinio fel costau ymchwil.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n pwysleisio’r angen parhau â’r gefnogaeth i’r astudiaethau Iechyd Cyhoeddus Brys COVID-19 sydd mor bwysig. Fodd bynnag, dylai pob astudiaeth, gan gynnwys astudiaethau Iechyd Cyhoeddus Brys, ddilyn y ffordd o bennu costau y manylir arni yng nghanllawiau AcoRD Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Dylid bod galw i ymchwilwyr lenwi SoECAT ar gyfer ceisiadau ymchwil COVID-19 newydd yn yr un ffordd ag ar gyfer unrhyw geisiadau ymchwil sy’n cwrdd â’r meini prawf sy’n galw am SoECAT. Efallai y byddai’n ddefnyddiol llenwi SoECAT ar gyfer astudiaeth sydd eisoes yn cael ei hariannu os y bydd hyn yn helpu i sicrhau bod costau astudiaeth wedi’u nodi a’u pennu yn gywir. Gellir cael cymorth ar gyfer hyn trwy Arbenigwyr AcoRD Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dylai costau ymchwil gael eu hariannu’n llawn trwy’r dyfarniad ar gyfer yr ymchwil. Ni ddylid defnyddio cyllid Cefnogi a Chyflenwi Lleol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i dalu am gostau ymchwil unrhyw astudiaethau (heblaw am gostau ymchwil Rhan B AcoRD os ydyn nhw’n gymwys) er y gellir defnyddio adnoddau sy'n derbyn cyllid Cefnogi a Chyflenwi Lleol, fel bob amser, i gyflawni gweithgareddau ymchwil cyn belled â bod y gost yn cael ei had-dalu trwy’r dyfarniad ar gyfer yr ymchwil.

Rydyn ni ar ddeall bod rhai sefydliadau GIG eisoes wedi ymrwymo adnoddau ar gyfer gweithgareddau ‘costau ymchwil’ un neu fwy o astudiaethau Iechyd Cyhoeddus Brys. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai sefydliadau GIG (a) wneud trefniadau lleol ar gyfer ad-daliad, neu (b) mewn achosion lle nad oes digon o gyllid ymchwil, uwchgyfeirio hyn i’r Tîm Ariannu Ymchwil yn y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi. Dylai ymchwil barhau tra bo problemau sydd wedi’u nodi’n cael eu datrys.