Astudiaethau modelu a ddefnyddir i werthuso effaith ymyriadau anfferyllol lefel y boblogaeth ar rif atgynhyrchu Coronafeirws Syndrom Anadlol Acíwt Difrifol 2 (SARS-CoV-2)

 Clefyd heintus anadlol y mae coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yn ei achosi ydy clefyd coronafeirws 2019 (COVID-19). Mae defnyddio ymyriadau anfferyllol wedi bod yn allweddol i helpu i arafu lledaeniad y feirws SARS-CoV-2. 

Er mwyn darparu sail ar gyfer unrhyw sefyllfaoedd ‘COVID-19 brys’ yn y dyfodol, ac er mwyn rhoi cyfuniadau posibl o ymyriadau anfferyllol ar brawf, sef ymyriadau y byddai eu hangen i ddod â throsglwyddiad dan reolaeth eto, mae’r TAC wedi datblygu offeryn ymyriadau anfferyllol ‘canllaw cyflym’. Modelu mathemategol sydd wedi’i ddefnyddio’n bennaf i werthuso effeithiolrwydd ymyriadau anfferyllol lefel y boblogaeth. Mae’r rhif atgynhyrchu ar bwynt mewn amser (Rt), a ddiffinnir fel nifer ddisgwyliedig y bobl y mae person heintiedig yn trosglwyddo’r clefyd iddynt ar ryw adeg (time - ‘t’), yn darparu dangosydd pwysig o ba mor gyflym y mae’r feirws yn lledaenu ar lefel y boblogaeth. Mae’r offeryn ymyriadau anfferyllol yn defnyddio deilliannau astudiaethau modelu sy’n bodoli i ddarparu sail uniongyrchol ar gyfer penderfyniadau sy’n berthnasol i gyd-destun penodol neu ar gyfer bwndeli ymyriadau anfferyllol gwahanol. Mae’r defnyddiwr yn mewnbynnu’r gwerth Rt cyfredol ar gyfer eu lleoliad penodol, yn dewis astudiaeth fodelu ac yna’n dethol nifer o ymyriadau anfferyllol o’r astudiaeth a ddewiswyd. Mae hyn yn cynhyrchu rhif Rt newydd, ynghyd â siart rhaeadr yn dangos y newidiadau yn y Rt o bob ymyrraeth anfferyllol unigol sydd wedi’i dethol. 

Mae gweithredu’r offeryn ymyriadau anfferyllol yn dibynnu ar gael nifer ddethol o astudiaethau modelu perthnasol, sydd wedi’u cynnal yn dda, i’w defnyddio. Mae’r Adolygiad Cyflym hwn yn dogfennu gwaith nodi, dethol, crynhoi ac arfarnu astudiaethau modelu addas yn feirniadol i’w defnyddio gyda’r offeryn. Cwblhawyd y gwaith i ddarparu sail ar gyfer yr offeryn ymyriadau anfferyllol ac, felly, mae’n canolbwyntio ar adrodd ar ddyluniad a nodweddion astudiaethau perthnasol; ni adroddwyd ar unrhyw ddeilliannau modelu. 

 

Read the full report.

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00036