Pa arloesiadau (gan gynnwys dychwelyd i ymarfer) a fyddai'n helpu i ddenu, recriwtio neu gadw staff clinigol y GIG? Map tystiolaeth gyflym
Mae amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) wedi cynyddu’n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn enwedig ers i COVID-19 fod o gwmpas. Mae’r GIG ar hyn o bryd yn gweld diffyg acíwt yn y gweithlu, sy’n amharu ar y gallu i ddelio ag amseroedd aros cynyddol a chlirio’r ôl-groniad yn sgil y pandemig. Mae’r adolygiad, a oedd yn canolbwyntio ar ardaloedd gwledig ac anghysbell, yn disgrifio’r sylfaen dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer datblygiadau arloesol (gan gynnwys dychwelyd i ymarfer) a allai helpu i ddenu, recriwtio neu gadw staff clinigol y GIG.
Cafodd y dystiolaeth ei chategoreiddio yn ôl meysydd diddordeb: dychwelyd i ymarfer; ffactorau sy’n dylanwadu ar recriwtio a/ neu gadw staff; ac ymyriadau neu strategaethau ar gyfer gwella gwaith recriwtio a chadw. Trefnwyd y dystiolaeth yn ôl gwahanol grwpiau staff clinigol yn y GIG: nyrsys a bydwragedd; meddygon, gan gynnwys meddygon teulu; deintyddion; gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd; a grwpiau cymysg o weithwyr iechyd proffesiynol.
Mae’r dystiolaeth yn dwyn sylw at yr heriau y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dymuno dychwelyd i ymarfer yn eu hwynebu, yn enwedig o ran “sgiliau wedi pylu”. Mae’r llwybrau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddychwelyd i ymarfer neu hyfforddiant wedi’u dogfennu’n dda, ond mae’r data ynglŷn â’u heffeithiolrwydd yn gyfyng.
Roedd datblygiadau arloesol effeithiol a oedd yn cefnogi recriwtio a chadw staff wedi’u seilio ar astudiaethau ymchwil a gynhaliwyd o fewn yr 20 mlynedd diwethaf.
Nodwyd amrywiaeth eang o ddatblygiadau arloesol a’u categoreiddio yn ôl pum thema:
- Ymyriadau addysgol
- Ymyriadau rheoleiddiol
- Cymelliannau ariannol
- Cymorth personol a phroffesiynol
- Strategaethau mewn bwndeli
Roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod angen i strategaethau i wella gwaith denu, recriwtio a chadw staff fod yn amlweddog, cynnwys yr holl themâu a chael eu gwerthuso ymhellach,
REM00028