Bae Abertawe i gefnogi treial newydd yn y DU ar gyfer brechlyn COVID-19
21 Ebrill
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn y treial clinigol diweddaraf sy'n astudio brechlyn yn erbyn COVID-19.
Dyma'r astudiaeth gyntaf i brofi ymgeisydd brechlyn COVID-19 sy'n deillio o blanhigion, a bydd yn gwerthuso effeithiolrwydd a diogelwch y Brechlyn COVID-19 Gronynnol tebyg i Goronafeirws (CoVLP).
Mae'r brechlyn eisoes wedi bod trwy astudiaethau dynol cyfnod cynnar, ac erbyn hyn mae angen ei brofi ar raddfa fawr. Mae astudiaeth ar fin cychwyn sy'n cynnwys 1,500 o bobl ledled y DU, a’r nod yw recriwtio gwirfoddolwyr rhwng 18-39 oed sy'n byw yn Abertawe a'r ardaloedd lleol.
Bydd yr astudiaeth yn cynnwys gwirfoddolwyr yn gwneud uchafswm o 10 ymweliad â safle'r astudiaeth dros oddeutu 26 mis. Ad-delir costau teithio rhesymol a bydd gwirfoddolwyr yn derbyn taliad am gymryd rhan yn yr astudiaeth hon.
Bydd astudiaeth brechlyn Medicago yn rhedeg ar draws pedair ar ddeg o safleoedd yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â sawl safle yn yr Unol Daleithiau, Canada, Ewrop ac America Ladin. Bydd yr astudiaeth yn cofrestru hyd at 30,000 o wirfoddolwyr ledled y byd.
Dywedodd Dr Brendan Healy, Prif Ymchwilydd ar gyfer treial Medicago ac Ymgynghorydd mewn Microbioleg a Chlefydau Heintus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym i gyd nawr yn dechrau gweld effeithiau buddiol brechiadau COVID-19. Er ei bod yn galonogol bod gennym eisoes dri brechlyn yn y DU, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau i ddatblygu brechlynnau fel bod mwy o ddewis a'r gallu i ddewis brechlynnau ar sail eu buddion unigol. Mae brechlyn COVID-19 sy'n deillio o blanhigion Medicago eisoes wedi bod trwy astudiaethau dynol cyfnod cynnar. Rwy’n falch iawn y bydd Bae Abertawe yn recriwtio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gam nesaf datblygiad y brechlyn hwn. Hoffwn annog pobl sy'n byw ym Mae Abertawe a'r ardaloedd cyfagos i ystyried cymryd rhan.”
Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb i gofrestu ar wefan y treial yma