Banc Canser Cymru yn ennill dyfarniad biobanc y flwyddyn
26 Tachwedd
Mae Banc Canser Cymru wedi ei enwi yn Fiobanc y Flwyddyn 2020 gan Ganolfan Cyfeiriadur a Chydgysylltu Meinwe sefydliad Cydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU (UKCRC).
Mae Banc Canser Cymru, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn casglu samplau o feinwe a gwaed oddi wrth gleifion yng Nghymru pan fo canser yn ddiagnosis posibl.
Caiff y samplau eu storio i ffurfio bio-ystorfa ble caiff ymchwilwyr wneud cais am fiosamplau a data.
Dywedodd Dr Alison Parry-Jones, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Banc Canser Cymru, bod y dyfarniad yn achlysur o falchder i’r “tîm ardderchog”.
Mae miloedd o samplau Banc Canser Cymru wedi eu defnyddio mewn ymchwil a gynhaliwyd ledled y byd er mwyn gwella triniaethau ar gyfer cleifion canser.
Dywedodd Michael Bowdery, y Pennaeth Rhaglenni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Rydym yn falch o fod yn ariannu Banc Canser Cymru ac mae’n wych i weld y tîm yn cael ei gydnabod gan Ganolfan Cyfeiriadur a Chydgysylltu Meinwe UKCRC. Mae’r dyfarniad yn gwbl haeddiannol.”