Ifor Thomas

Barddoniaeth, canser y brostad a phŵer ymchwil

29 Hydref

Fe wnaeth yr awdur Cymreig adnabyddus Ifor Thomas swyno'r gynulleidfa yn y ddegfed gynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan gyfuno creadigrwydd, artistiaeth a rhythm wrth iddo rannu barddoniaeth a oedd yn myfyrio ar fywyd, salwch a goroesi.

Siaradodd Ifor yn onest am gael diagnosis o ganser y brostad bron i ugain mlynedd yn ôl. Cymerodd ran mewn treial clinigol mawr yn y DU ym Mryste yn cymharu canlyniadau ar gyfer dynion sy'n derbyn llawdriniaeth, radiotherapi neu fonitro gweithredol. 

Dywedodd: "Rwy'n gryf o'r gred bod y grŵp ymchwil yr ymunais ag ef, dan arweiniad yr Athro Jenny Donovan a'r Athro Freddie Hamdy, wedi achub fy mywyd. 

Felly pan fydd pobl yn gofyn a yw'r arian sy'n cael ei wario ar ymchwil yn werth chweil, rwy'n dweud ydy, mae e. Hebddo, byddwn i wedi marw erbyn hyn."

Wrth fyfyrio ar ei brofiad, cymharodd y diagnosis i wynebu arholiad amhosibl yn "My Recurring Nightmare is Trigonometry":

"Once again, I’m sitting at a small desk,
the single unblinking eye of a blank paper…
Why am I doing the trigonometry paper?
I own my house, my children are gone —
but still, the paper demands a question.”

"The question set for me was prostate cancer —
and that was the trigonometry I had to answer.”

Roedd ei gerddi nesaf, "Sister Vivienne and Scribbles", yn dal y byd ymchwil trwy lygaid claf, o ffurflenni cydsyniad i ddyrannu triniaeth ar hap:

"I tell her to spin the wheel —
or in this case, phone a computer in Bristol.
Surgery, watchful waiting, X-rays.
She looks down and scribbles a flower.
It’s not a flower, but a lucky four-leaf clover.”

Yn "Gutted", talodd deyrnged i nyrs a'r ddynoliaeth a rennir sy'n croesi ffiniau:

"She says ‘gutted’ in a soft Zambian voice…
Her touch lingers, but her eyes remember
a freshwater lake near her village.”

Daeth i ddiweddglo gyda "The Undertaker's Invoice" o'i lyfr sydd ar ddod:

"Clean the body, water and bleach, five to one.
Plug the orifices — cotton wool will do.
…Now, my father, you are ready to be kissed.”

Atgoffodd Ifor y gynulleidfa fod bywyd y tu ôl i bob ystadegyn ymchwil.  Dywedodd: 

Rwy'n brawf byw bod ymchwil yn gweithio." 

Gydag wyth llyfr wedi'i gyhoeddi i'w enw, mae Ifor Thomas wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Llyfr y Flwyddyn Cymru ac mae wedi ennill gwobr Awdur Teithio 'r Flwyddyn British Airways. Mae ei waith wedi cael sylw ar y BBC ac mae ei gasgliad "Body Beautiful" yn adrodd ei daith bersonol o ddiagnosis a thriniaeth ar gyfer canser y brostad.

Am y rhaglen lawn ac i ailymweld ag uchafbwyntiau'r gynhadledd, ewch i'r dudalen cynhadledd ar ein gwefan.