Grey haired man cycling on exercise bike in front of screen showing a street view

Beico i lawr lôn atgofion

A allwch chi ddychmygu'r atgofion yn llifo'n ôl pan fyddwch yn beicio i lawr stryd eich plentyndod neu ar daith feicio gyda’r teulu ar un o'ch hoff wyliau? Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn gobeithio ymchwilio, nid manteision corfforol yn unig ond manteision gwybyddol beicio gyda'u prosiect ymchwil diweddaraf, BikeAround.

Mae’r prif ymchwilwyr, Melitta McNarry, Kelly Mackintosh ac Andrea Tales yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i ymchwilio i effaith beicio ar gof mewn cartrefi gofal ledled Cymru.

Bydd y bobl sy’n cymryd rhan yn beicio ar feic llonydd gyda chromen realiti rhithwir yn taflu delweddau o fapiau Google o leoedd cyfarwydd a chrwydrau o’u plentyndod. Bydd archwiliadau iechyd sylfaenol gan gynnwys cyfradd y galon a'r prawf eistedd-i-sefyll yn cael eu cynnal ynghyd â chyfres o gwestiynau arolwg i'r rhai hynny a ddefnyddiodd y beic yn rheolaidd o gymharu â'r rhai na wnaeth hynny, i gael gwybod beth yw’r effaith gyffredinol ar iechyd.

Mae ENRICH Cymru yn chwilio am gartrefi gofal sydd â diddordeb i helpu gyda'r ymchwil hon a allai wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru.

Dywedodd yr Athro Kelly Mackintosh, sy'n arbenigo mewn iechyd corfforol gan ddefnyddio technoleg: "Roedd y cysyniad hwn yn rhywbeth y clywais amdano i ddechrau gan yr Athro Ralph Maddison sy'n arbenigo mewn Gweithgarwch Corfforol ac Atal Clefydau yn Awstralia ac roedd yn cyd-fynd yn agos iawn â'n gwaith ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio ag ef arno.

"Rydym yn chwilio am gartrefi gofal i'n helpu gyda'r ymchwil hwn. Rydym yn gobeithio bod â dau feic y byddwn yn eu lleoli mewn pedwar cartref gofal am tua wyth wythnos dros gyfnod o 18 mis, gan ddechrau ym mis Ionawr 2022.

"Nid yw trigolion sydd â nam gwybyddol yn gymwys ar hyn o bryd, ond rydym yn gobeithio datblygu'r astudiaeth yn y dyfodol.

"Hoffem glywed gan tua 10 o breswylwyr gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio'r beic yn rheolaidd, y rhai nad ydynt yn hoff o’r beic - yn ogystal ag ymarferwyr gofal cymdeithasol - am y profiad. Mae gwybod sut mae pobl yn ei ddefnyddio a'u profiadau yn hanfodol ar gyfer gwybod a yw'r cysyniad hwn yn ymarferol i wella iechyd a lles."

Dywedodd yr Athro Melitta sy'n arbenigo mewn ffitrwydd cardio-anadlol: "Mae ansawdd bywyd yn aml yn cael ei anghofio ac mae yna ystrydeb nad yw pobl hŷn yn hoffi defnyddio technoleg ond dydy hynny ddim yn wir.

"Rydym yn gwybod bod gan ymarfer corff lu o fanteision ar gyfer gweithrediad yr ymennydd ond bydd cyplysu hynny â'r atgofion yn rhywbeth diddorol iawn. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau'r astudiaeth ac ni allwn aros i weld yr astudiaeth ar waith."

Dywedodd Stephanie Green, cydlynydd ENRICH Cymru: "Ar ôl heriau'r 18 mis diwethaf mae'r  astudiaeth BikeAround yn swnio fel chwa o awyr iach, i ddod â hwyl yn ôl i'r cartrefi gofal.

"Mae'r astudiaeth hon yn swnio'n berffaith ar gyfer cartrefi gofal sy’n barod ar gyfer ymchwil ynghyd â chartrefi gofal nad ydynt erioed wedi bod yn rhan o ymchwil o'r blaen. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn hynod boblogaidd gyda chartrefi gofal ledled Cymru felly rydym yn annog cartrefi gofal i gysylltu cyn gynted â phosibl."

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ENRICH Cymru neu Melitta McNarry.