Beth am helpu i lunio ymchwil i driniaeth ffibromyalgia?
Mae Prifysgol Caerdydd yn datblygu astudiaeth ymchwil newydd i archwilio a allai Dadsensiteiddio Symudiadau Llygaid ac Ailbrosesu (EMDR) – therapi seicolegol a ddefnyddir i drin trawma – hefyd helpu i leihau poen a gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw gyda ffibromyalgia.
Mae EMDR eisoes yn driniaeth lwyddiannus ar gyfer cyflyrau sy'n gysylltiedig â thrawma fel Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD). Mae ymchwilwyr erbyn hyn, yn archwilio a allai hefyd helpu i leihau poen a gwella ansawdd bywyd unigolion sy'n byw gyda ffibromyalgia. Er mwyn sicrhau bod yr ymchwil yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau gwirioneddol pobl â ffibromyalgia, mae'r tîm yn gwahodd unigolion â phrofiad bywyd i gymryd rhan mewn grŵp ffocws ar-lein. Bydd eu dealltwriaeth yn helpu i lunio'r astudiaeth, gan ei gwneud yn fwy ystyrlon ac yn canolbwyntio ar y claf. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfrannu at ymchwil a allai arwain at ddewisiadau triniaeth newydd ar gyfer ffibromyalgia i gysylltu. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu cyn y cyfarfod fel y gall cyfranogwyr ei hadolygu ymlaen llaw.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Rydym yn chwilio am bobl sydd:
- Â diagnosis ffibromyalgia neu wedi dioddef symptomau sy'n gyson â ffibromyalgia.
- Yn barod i rannu eu barn a'u profiadau mewn lleoliad grŵp ar-lein parchus.
- Â diddordeb helpu i lunio ymchwil a allai wella dewisiadau triniaeth.
- Yn gyfforddus yn defnyddio Zoom neu lwyfannau ar-lein tebyg (gallwn gynnig cefnogaeth os oes angen).
- Nid oes angen unrhyw gefndir ymchwil, academaidd neu glinigol arnoch - eich profiad chi yw'r hyn sy'n bwysig.
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Os byddwch yn dewis cymryd rhan, cewch eich gwahodd i ymuno â grŵp ffocws ar-lein untro, a fydd yn para tua 60 i 90 munud.
Yn ystod y sesiwn, byddwn yn gofyn i chi am eich barn ar bethau fel:
- Sut beth yw byw gyda ffibromyalgia
- Pa fath o gefnogaeth neu driniaethau sydd wedi helpu (neu sydd heb helpu)
- Beth ydych chi'n ei feddwl am y syniad o ddefnyddio therapi EMDR ar gyfer ffibromyalgia
- Beth fyddai'n ei gwneud hi'n haws neu'n anoddach i bobl gymryd rhan yn y math hwn o astudiaeth
Bydd popeth yr ydych chi'n ei rannu yn cael ei gadw'n gyfrinachol, a gallwch ddewis faint neu gyn lleied yr hoffech ei gyfrannu.
- Pa mor hir fydd fy angen?
Byddwch yn cymryd rhan mewn un grŵp ffocws ar-lein yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 21 Gorffennaf 2025, a fydd yn para tua 60 i 90 munud.
Byddwn yn anfon rhywfaint o wybodaeth atoch am y prosiect ychydig ddyddiau ymlaen llaw, fel bod gennych amser i’w darllen cyn y sesiwn..
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Manteision i chi :
- Rhannu’ch profiadau o fyw gyda ffibromyalgia i helpu i lunio ymchwil a allai arwain at ddewisiadau triniaeth gwell
- Sicrhau bod yr astudiaeth yn berthnasol ac yn barchus, ac yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysicaf i bobl â ffibromyalgia
- Dylanwadu ar sut mae ymchwilwyr yn dylunio'r astudiaeth, gan gynnwys sut mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu cefnogi a pha ganlyniadau sy'n cael eu mesur
- Cyfrannu at ymchwil sy'n canolbwyntio ar y claf, gan helpu i sicrhau bod astudiaethau yn y dyfodol yn bodloni anghenion y rhai y maent yn anelu at eu cefnogi yn y byd go iawn.
- Bod yn rhan o grŵp cefnogol lle mae’ch profiad bywyd yn cael ei werthfawrogi a'i barchu
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
- Darllenwch ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
- Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth helpu ag Ymchwil.
Llenwch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Online
Sefydliad Lletyol:
Cardiff University
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm