Beth am helpu i wella sut mae pobl ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cyfathrebu am iechyd y mislif?
A oes gennych chi brofiad (neu eich bod yn cefnogi aelod o'r teulu sydd â phrofiad) o fislif trwm/afreolaidd, poen mislif difrifol, endometriosis, a Syndrom Ofarïau Polysystig (PCOS)?
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn creu ffordd newydd o helpu pobl ifanc, eu teuluoedd a'u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i siarad yn fwy agored am iechyd mislif.
Y nod yw sicrhau bod pobl ifanc yn yr ysgol uwchradd yn gallu cael y cymorth a'r gefnogaeth gywir ar gyfer cyflyrau fel:
- Mislif trwm neu afreolaidd
- Poen mislif difrifol
- Endometriosis
- Syndrom Ofarïau Polysystig (PCOS)
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- Profiad bywyd o broblemau iechyd mislif fel person ifanc (megis mislif trwm neu afreolaidd, poen mislif difrifol, endometriosis, PCOS) (hoffem glywed gan bobl ifanc 16 oed neu'n hŷn sydd â phrofiad o broblemau iechyd mislif yn ogystal ag oedolion sydd wedi cefnogi rhywun).
- Profiad o gefnogi rhywun (aelod o'r teulu, ffrind, neu berson ifanc) â’r problemau hyn
- Parodrwydd i roi adborth ar ddogfennau neu gynlluniau’r prosiect
- Yn gallu cyfathrebu ag ymchwilwyr trwy e-bost, ar y ffôn, ac mewn cyfarfodydd
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
- Bydd gofyn i chi:
- Ymuno â chyfarfodydd bob tri mis gyda'r tîm ymchwil
- Rhannu eich barn, syniadau a phrofiadau am iechyd mislif
- Darllen a rhoi sylwadau ar ddogfennau neu ddeunyddiau drafft
- Helpu i benderfynu sut mae'r prosiect yn cael ei gynllunio a'i gyflawni
- Cynghori ar wneud deunyddiau'n glir ac yn hygyrch
- Cynrychioli barn pobl ifanc a/neu rieni
- Cadw gwybodaeth am y prosiect yn gyfrinachol
- Pa mor hir fydd fy angen i?
- Cyfarfodydd bob tri mis (tua dwy awr yr un)
- Awr neu ddwy awr o ddarllen/paratoi cyn pob cyfarfod
- Yn achlysurol, adborth drwy e-bost rhwng cyfarfodydd
- Y disgwyl yw i'r prosiect redeg am ddwy flynedd, gan ddechrau ym mis Ebrill 2026 (os caiff ei ariannu).
- Beth yw rhai o'r manteision i mi?
Manteision i chi :
- Cyfle i lunio ymchwil mewn maes sy’n bwysig i chi
- Cyfle i rannu’ch profiad bywyd i helpu eraill
- Dysgwch fwy am sut mae ymchwil yn cael ei gynllunio a'i gynnal
- Datblygu sgiliau mewn cyfathrebu, gwaith tîm, a gwneud penderfyniadau
- Gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr a chyfranwyr cyhoeddus eraill
- Bod yn rhan o wella cefnogaeth i bobl ifanc sydd â phroblem iechyd y mislif
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
- Darllenwch ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
- Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth helpu ag Ymchwil.
Llenwch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Prifysgol Caerdydd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm