
Gweminar cyfadran - Beth mae economegwyr iechyd yn ei wneud yng nghwmni Yr Athro Dyfrig Hughes
Mae'r sesiwn, dan arweiniad yr Athro Dyfrig Hughes, yn cyflwyno'r fframweithiau ar gyfer gwerthuso economaidd a'r dulliau a ddefnyddir gan economegwyr iechyd i greu tystiolaeth cost-effeithiolrwydd i gefnogi penderfyniadau yn y GIG. Mae'n darparu cyflwyniad sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn mesur costau, canlyniadau iechyd, a dewisiadau cleifion – er mwyn hyrwyddo'ch dealltwriaeth o sut y gellid integreiddio economeg iechyd i'ch ymchwil.
Gan ddefnyddio astudiaethau achos o feysydd, megis diagnosteg ar gyfer heintiau a thriniaeth ar gyfer epilepsi, rydym yn rhannu enghreifftiau ymarferol o sut y gellir defnyddio dadansoddiad cost-effeithiolrwydd, dadansoddi cost-cyfleustodau, ac arbrofion dewis arwahanol i gynhyrchu tystiolaeth economaidd iechyd a gwella eich ymchwil.