Beth ydy risg trosglwyddo SARS-CoV-2 mewn poblogaethau sydd wedi’u brechu?

Beth yw’r risg o bobl sydd wedi’u brechu yn trosglwyddo COVID-19?

Bu’r adolygiad hwn yn archwilio tystiolaeth ynglŷn â risg trosglwyddo COVID-19 o bobl sydd wedi’u brechu i eraill sydd eu hunain wedi’u brechu neu beidio. Cynhwyswyd cyfanswm o 35 o astudiaethau a gyhoeddwyd yn 2021 yn yr adolygiad hwn.

Cynhaliwyd mwyafrif yr astudiaethau hyn mewn ffyrdd sy’n golygu ei bod yn bosibl bod y canlyniadau fel pe baent yn awgrymu perthynas lle nad oes un, mewn gwirionedd, yn bodoli.  Yn yr achosion hyn, mae’n golygu mai isel yw ansawdd y dystiolaeth ac ni ellir ymddiried yn llwyr ynddi.

Canlyniadau

Roedd astudiaethau cynnar, pan mai alffa oedd y straen trechaf o COVID, yn dangos bod lledaeniad y feirws yn llai o bobl a oedd wedi’u brechu.  Mae canlyniadau o astudiaethau fwy diweddar yn ansicr ynglŷn â ph’un a yw lledaeniad y feirws yn llai ar ôl brechu.  Gallai hyn fod oherwydd bod y straen trechaf o COVID wedi newid o alffa i delta yn ystod y cyfnod hwn.

Yn achos straenau alffa a delta, po hiraf ydyw ers i rywun dderbyn eu brechiad, hawsaf oll y gallent drosglwyddo’r feirws. Roedd pobl a oedd wedi’u brechu’n llawn (h.y. y rheini a oedd wedi derbyn brechlynnau atgyfnerthu) yn llai tebygol o drosglwyddo’r feirws na’r rheini a oedd wedi’u brechu’n rhannol.

Roedd mwyafrif yr astudiaethau’n edrych ar y lledaenu ar aelwydydd, felly ni ellir cymhwyso’r canlyniadau at amgylcheddau eraill.

Camau Gweithredu Posibl yn y Dyfodol

  • Mae angen mwy o ymchwil i ddeall sut y mae’r feirws yn lledaenu, yn enwedig y straen delta (yr un mwyaf cyffredin yng Nghymru ar adeg yr Adolygiad hwn) a straenau eraill sy’n achosi pryder (gan gynnwys omicron).
  • Mae angen astudio ymhellach y ffordd y mae’r feirws yn lledaenu mewn amgylcheddau eraill, fel ysgolion, cartrefi gofal, ysbytai, gweithleoedd a mannau cyfarfod cymdeithasol, ac ymhlith pobl mewn risg.
  • Dylid annog brechu llawn, gan gynnwys brechlynnau atgyfnerthu.
  • Nes y daw mwy yn hysbys, mae’n bosibl y bydd dal angen mesurau atal eraill i leihau lledaeniad y feirws.

Darllenwch yr adroddiad llawn neu weld y wybodlen

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00012