Beth yw effaith cyfyngiadau addysgol a chyfyngiadau eraill yn ystod y pandemig COVID-19 ar blant 3-13 oed

Pa effeithiau mae cyfyngiadau yn ystod y pandemig wedi’u cael ar blant 3 i 13 oed?

Mae’r pandemig COVID-19 wedi amharu ar fywydau plant ledled y byd. Nod yr adolygiad hwn oedd edrych ar sut y mae cyfyngiadau wedi effeithio ar lesiant corfforol a meddyliol plant a’u haddysg. Bu’r adolygiad yn edrych ar effaith cyfyngiadau ehangach, o ran addysg, a hefyd yn edrych i weld a oedd hyn wedi effeithio ar rai grwpiau o blant yn fwy nag ar eraill.

Darganfyddiadau

Cafodd amhariadau a chyfyngiadau mewn addysg effaith negyddol ar ddysgu, llesiant ac iechyd meddwl, bwyta ac iechyd corfforol. Roedd plant hefyd mewn risg fwy o bobl yn eu cam-drin ac yn camfanteisio arnyn nhw.

Plant sy’n byw mewn tlodi sydd wedi gweld yr effaith fwyaf, yn enwedig oherwydd diffyg prydau bwyd rheolaidd, amodau sy’n achosi straen a gorbryder yn y cartref, cyfleoedd cyfyngedig i gael gafael mewn adnoddau digidol ar gyfer dysgu, neu fynediad cyfyngedig i fannau awyr agored ar gyfer gweithgarwch corfforol.

O ran llesiant ac iechyd meddwl, effeithiwyd yn arbennig ar blant a oedd eisoes mewn risg o iechyd meddwl gwael neu a oedd yn dioddef o orbryder sylweddol cyn y pandemig, a’r rheini â gofalwyr a oedd yn dioddef o drallod seicolegol.

Effeithiwyd yn fwyaf ar blant iau a’r rheini o gymunedau dan anfantais o ran dysgu a lefelau cyflawni.

Roedd llai o weithgarwch yn effeithio’n arbennig ar blant ag anableddau.

Mae’r dystiolaeth a ddarganfuwyd yn wan, heb ddata diweddar a thymor hir.

Goblygiadau

Er bod yna rywfaint o dystiolaeth o niwed, mae’n bosibl ei bod yn rhy fuan i asesu’r effeithiau tymor hir yn fanwl gywir.

Nid oes brin unrhyw dystiolaeth o fesurau a gymerwyd i gyfyngu ar y niweidiau hyn, er bod ysgolion unigol o bosibl wedi cymryd camau i gefnogi plant. Mae angen ymchwil sylfaenol yn y maes hwn.

Datgelodd ein darganfyddiadau’r angen i:

  • Sicrhau cyfathrebu da rhwng yr ysgol a’r cartref
  • Cefnogi cynnwys rhieni mewn gweithgareddau dysgu eu plant
  • Datblygu dulliau dysgu annibynnol
  • Sicrhau bod cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd ar gael yn well i gefnogi dysgu gartref
  • Rhoi mwy o flaenoriaeth i lesiant ac iechyd meddwl o fewn yr ysgol/ y gymuned, a monitro hyn
  • Darparu mwy o gefnogaeth ar gyfer dysgu yn yr awyr agored
  • Sicrhau bod yna gefnogaeth ar gael i’r dysgwyr mwyaf difreintiedig ac agored i niwed
  • Cefnogi dysgwyr Cymraeg ar aelwydydd di-Gymraeg
  • Cynnwys y materion hyn mewn hyfforddiant proffesiynol ar gyfer athrawon

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00013