Beth yw’r dystiolaeth o niwed uniongyrchol o haint COVID19 a brechlyn COVID-19 mewn menywod beichiog/ ôl-enedigol a’r plentyn yn y groth?

Pa mor debygol ydy hi y gallai haint a brechlyn COVID-19 niweidio menywod beichiog, eu plant yn y groth a menywod sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar?

Fis Gorffennaf 2021, rhoddwyd cyfarwyddyd y dylid brechu pob menyw feichiog yn erbyn COVID-19. Fodd bynnag, mae yna bryder yng Nghymru mai isel yw nifer y menywod beichiog sy’n manteisio ar y brechlyn, sydd wedi arwain at fwy o bobl o’r grŵp hwn yn mynd i mewn i’r ysbyty. Adolygwyd y dystiolaeth o niwed uniongyrchol i fenywod beichiog y mae haint y feirws neu’r brechlyn yn ei achosi er mwyn cryfhau’r cyngor sy’n cael ei roi i fenywod beichiog.

Dangosodd y canlyniadau fod risg menywod beichiog o ddal COVID-19 yr un fath â’r risg i oedolion iach eraill. Mae menywod sydd

  • yn ordrwm neu
  • yn dioddef o broblemau meddygol eraill neu
  • yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig neu
  • yn hŷn na 35 oed neu
  • yn dod o gefndir dan anfantais neu
  • yn gweithio mewn swyddi gyda’r cyhoedd

mewn risg fwy o gael baban cynamserol neu farw-anedig os ydyn nhw’n cael COVID-19 yng nghyfnodau hwyrach beichiogrwydd.

Mae yna dystiolaeth gynyddol y gallai menywod beichiog fod mewn risg gynyddol o salwch difrifol o COVID-19, yn enwedig yng nghyfnod hwyr beichiogrwydd, ond mae yna ddiffyg tystiolaeth o ansawdd uchel ar hyn o bryd.  Mae ymchwil yn parhau yn y maes hwn, a allai wella’r ddealltwriaeth bresennol.

Ar hyn o bryd, nid yw’r dystiolaeth yn glir ynglŷn ag effeithiau tymor hir COVID-19 yn ystod beichiogrwydd i fenywod neu i’w plant. 

Mae wedi’i ddangos bod brechu yn erbyn COVID-19 yn effeithiol heb unrhyw broblemau â diogelwch o astudio 200,000 o fenywod yn y DU ac UDA a gafodd eu brechu pan roedden nhw’n feichiog.  Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o’r brechlyn yn achosi niwed i’r baban yn y groth. Nid yw’r brechlyn yn effeithio ar ffrwythlondeb, ac ni ddylai’r brechlyn atal menywod sy’n ceisio beichiogi.

Cyngor ar frechu

Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol argymell brechu yn erbyn COVID-19 ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd ac wrth fwydo ar y fron.  Brechlynnau Pfizer-BioNTech neu Moderna ydy’r brechlynnau a ffefrir.

Mae brechu’n arbennig o bwysig i:

  • fenywod beichiog yn y grwpiau mewn risg a ddangosir uchod gan eu bod yn fwy tebygol o ddod yn ddifrifol sâl
  • y rheini sy’n gweithio ym maes gofal iechyd neu alwedigaethau eraill gyda’r cyhoedd.

Darllenwch yr adroddiad llawn.

Gweld y ffeithlun

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RES00024