Yr Athro Jon Bisson
Roedd Jon yn Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu gyda BIP Caerdydd a’r Fro rhwng 2010 a 2013, yn Gyfarwyddwr Clinigol Cydweithrediaeth Gwyddor Iechyd Academaidd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd rhwng 2011 a 2013, ac yna bu’n arwain gwaith datblygu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac ef oedd y Cyfarwyddwr cyntaf tan fis Awst 2018. Roedd yn gyd-gadeirydd Grŵp Datblygu Canllawiau PTSD NICE cyntaf y DU ac mae’n cadeirio Pwyllgor Canllawiau Triniaeth y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Straen Wedi Trawma. Datblygodd y gwasanaethau cyswllt seiciatreg, straen wedi trawma ac iechyd meddwl cyn-filwyr cyntaf yng Nghymru ac mae wrthi ar hyn o bryd yn arwain gwaith datblygu menter gwella ansawdd straen wedi trawma Cymru gyfan.
Mae Jon yn seiciatrydd gweithredol ac yn athro seiciatreg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi cynnal astudiaethau amrywiol, gan gynnwys dau hap-dreial wedi’u rheoli y dyfynnir ohonyn nhw’n helaeth, yn edrych ar ymyriadau seicolegol cynnar yn sgil digwyddiadau trawmatig, a phum adolygiad systematig Cochrane ym maes straen wedi trawma. Datblygodd Grŵp Ymchwil Straen Wedi Trawma Prifysgol Caerdydd, ac mae’n parhau i arwain y grŵp hwn, ac mae 37 o grantiau ymchwil gwerth mwy nag £20 miliwn wedi’u dyfarnu iddo. Mae ei ymchwil bresennol yn cynnwys hap-dreialon wedi’u rheoli o ymyriad hunangymorth tywysedig ar gyfer PTSD ysgafn i gymedrol, a 3MDR ar gyfer PTSD sydd ag ymwrthedd i driniaeth mewn cyn-filwyr.
Mae ganddo fwy na 160 o gyhoeddiadau, mae’n addysgu ac yn goruchwylio israddedigion, ôl-raddedigion, gweithwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill yn rheolaidd. Mae wedi gwneud mwy na 150 o gyflwyniadau mewn cyfarfodydd a chynadleddau amrywiol mewn 17 o wledydd, gan gynnwys 42 o brif gyflwyniadau /cyflwyniadau i sesiynau llawn mewn cynadleddau.