Blaenoriaethau Strategol Grŵp y Bledren a’r Arennau yr NCRI
Mae'r Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol (NCRI) yn lansio Blaenoriaethau Strategol newydd Grŵp y Bledren a’r Arennau yr NCRI. Mae Grŵp y Bledren a’r Arennau yr NCRI wedi cyhoeddi blaenoriaethau strategol mewn ymchwil i fynd i'r afael â heriau a gwella canlyniadau cleifion.
Mae'r grŵp wedi nodi'r blaenoriaethau canlynol y bydd yn canolbwyntio ei ymdrechion arnynt dros y tair blynedd nesaf:
- Canfod yn gynnar ac atal gyda manwl gywirdeb gyda'r bwriad o ymyrryd yn gynnar mewn canser wrothelaidd
- Astudiaeth triniaeth systemig cyn-llawdriniaeth ar gyfer canser yr arennau
- Gwaith dilynol wedi'i addasu ar gyfer risg mewn canserau cyfnod cynnar y bledren a'r arennau
- Cynllun treialu radiotherapi mewn canser y bledren
- Opsiynau sgrinio ar gyfer cleifion â thiwmorau arennol bach i lywio haenu risg a dewis triniaeth
- Gweithdy i ddatblygu ein dull o ymdrin â chanserau datblygedig yr arennau a'r bledren ar waith y grŵp hyd yma
Mae’r NCRI yn gwahodd ceisiadau am Gadeirydd a Dirprwy Gadeirydd newydd y grŵp yn gyffredinol, i weithio ochr yn ochr â'r Athro Robert Jones, Cadeirydd Grŵp y Bledren a’r Arennau yr NCRI, yn y lle cyntaf. Maent hefyd yn chwilio am Gadeiryddion a Dirprwy Gadeiryddion ar gyfer pob un o'r gweithgorau newydd sy'n deillio o'r blaenoriaethau strategol.
Ewch i'r wefan i gael mwy o fanylion am swyddi gwag y grŵp yn gyffredinol a'r gweithgorau.
Dyddiad cau: 23:59 ar 28 Mai 2023