Group of students talking

Blaenoriaethau ymchwil ar bontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion

17 Mehefin

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn lansio ein ail harolwg sydd ar agor 14 Mehefin i 7 Gorffennaf. Mae’n adeiladu ar ein harolwg cyntaf a gafodd ei gynnal yn y gwanwyn. Rydyn ni wedi nodi ystod o gwestiynau ymchwil o’r ymatebion i’r arolwg cyntaf mewn rhestr hir.

Rydyn ni nawr yn gofyn i bobl ifanc, aelodau’r teulu a gofalwyr, a phobl broffesiynol sy’n cefnogi i gymryd rhan mewn arolwg newydd i ddewis eu 10 prif gwestiwn o’r rhestr. Hoffwn annog pobl i ddewis y cwestiynau sy’n bwysicaf iddyn nhw, hyd yn oed os na gymeron nhw ran yn yr arolwg blaenorol. Rydyn ni am sicrhau bod ein rhestr fer terfynnol yn cyfleu yr hyn mae’r rhanddeiliad eisiau darganfod drwy ymchwil.

Mae’r arolwg yn rhan o ymarfer gosod blaenoriaethau ymchwil i’n helpu i ddeall pa rwystrau, problemau ac ansicrwydd y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth drosglwyddo o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion.

Beth allwch chi ei wneud?

Gallwch lenwi'r arolwg, annog eich cysylltiadau i'w lenwi, a rhoi gwybod i gydweithwyr amdano drwy eich rhwydweithiau, e-gylchlythyrau, e-byst a dolenni ar eich gwefan. Bydd yr arolwg yn cymryd llai na 10 munud i'w lenwi a bydd ar gael rhwng 14 Mehefin a 7 Gorffennaf.

Oes modd cyfrannu mewn ffyrdd eraill?

Nid yw arolwg wrth ddant pawb a bydd rhai pobl yn ei chael yn haws dweud eu dweud fel rhan o sgwrs. Felly, yn ogystal â’r arolwg hwn, rydyn ni’n cynnal a chefnogi grwpiau trafod ar bontio. Cysylltwch â ni os hoffech chi gynnal neu gymryd rhan mewn grŵp trafod.

Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan y Grŵp Gwybodaeth a’n tudalen penodol: Pontio o ofal cymdeithasol plant i ofal cymdeithasol oedolion