Blaenoriaethu cyllid a chefnogaeth ar gyfer ymchwil COVID-19 ledled y DU

22 Mawrth

Gan weithio gyda phartneriaid ledled y DU, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n arwain, yn galluogi ac yn cyflenwi ymchwil o’r radd flaenaf i COVID-19, sy’n elfen allweddol o ymateb cyffredinol y Llywodraeth i’r pandemig. O ystyried y pwysau hynod y mae’r system iechyd a gofal yn eu hwynebu ar hyn o bryd, mae’n rhaid inni hefyd sicrhau ein bod ni’n defnyddio i’r eithaf yr adnoddau a’r capasiti cyfyngedig sydd ar gael i gefnogi ymchwil.

Mae un proses DU-eang wedi’i rhoi ar waith a fydd yn caniatáu i’r Prif Swyddog Meddygol (CMO) / y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (DCMO) ar gyfer Lloegr dynnu ar gyngor arbenigol o ledled y DU i flaenoriaethu astudiaethau COVID-19 sydd â’r potensial mwyaf i fynd i’r afael â’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu.

Bydd y broses hon yn cwmpasu astudiaethau sy’n cael eu hariannu, boed hynny gan y sector cyhoeddus, y diwydiant neu elusennau a hefyd, mewn partneriaeth ag UKRI, astudiaethau sydd heb eu hariannu ar hyn o bryd. Ei nod ydy atal dyblygu ymdrech a sicrhau bod capasiti’r system iechyd a gofal i gefnogi ymchwil yn gallu ymdopi.

Dylai’r rheini sydd â syniadau ymchwil sy’n ceisio cyllid ar gyfer prosiect fynd, yn gyntaf, trwy’r porth. Bydd prosiectau sydd, yn ôl yr asesiad, yn cynnig gwaith o werth gwirioneddol yn destun brysbennu ar gyfer y ffrwd ariannu ymchwil COVID-19 DU-eang y mae’r NIHR/MRC yn ei gweinyddu, a bydd gofyn llenwi ffurflen gais briodol.

Mae manylion y broses a’r un pwynt mynediad newydd ar gyfer blaenoriaethu astudiaethau COVID-19 nawr wedi’u cyhoeddi.

O ran cymeradwyaethau’r HRA ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, dylai ymchwilwyr ymgeisio trwy’r broses flaenoriaethu genedlaethol yn gyntaf, a byddan nhw’n cael eu cyfeirio i gael cymeradwyaeth reoleiddiol gyflymach fel bod yr adolygiad cymeradwyo’n gallu symud ymlaen yn gyfochrog â’r system asesu sy’n arwain at gael barn y CMO/DCMO ynglŷn â blaenoriaethu.

Bydd angen i bob sefydliad GIG a phrifysgol yng Nghymru flaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer astudiaethau sydd wedi’u blaenoriaethu’n genedlaethol. Gwelwch y rhestr fyw o astudiaethau.

Gall sefydliadau gefnogi gweithgarwch ymchwil COVID-19 dim ond os nad ydy hyn yn effeithio ar allu’r system i recriwtio cyfranogion a/neu ddarparu’r adnoddau (gan gynnwys staff, samplau a data) sydd eu hangen i gefnogi ymchwil sydd wedi’i blaenoriaethu’n genedlaethol. Bydd disgwyl i sefydliadau oedi ag unrhyw astudiaethau lleol sy’n rhwystro’u gallu i gyfrannu at ymdrechion ymchwil cenedlaethol.