Oes gennych brofiad o ofalu am blentyn sy’n cael haint yn y glust yn rheolaidd?

Beth am helpu ymchwilwyr i ddarganfod pa mor effeithiol yw gwrthfiotigau ataliol i blant sy’n cael haint yn y glust yn rheolaidd?

Bydd tua thri o bob pedwar plentyn yn y DU yn wynebu o leiaf un haint yn y glust erbyn y byddan nhw’n bump oed. Mae llawer o blant yn cael mwy nag un haint, ac os yw plentyn yn cael pump neu fwy o heintiau clust mewn blwyddyn, gelwir hynny'n haint rheolaidd yn y glust. Gall yr heintiau hyn achosi gofid i'r plentyn a'r teulu, yn aml yn arwain at nosweithiau heb gwsg a cholli ysgol neu waith.

Yn yr astudiaeth hon, mae'r ymchwilwyr eisiau darganfod a yw rhoi ychydig o wrthfiotigau i blant dros amser hir yn helpu i drin heintiau rheolaidd yn y glust. Rydym hefyd eisiau gweld a yw'r driniaeth hon yn achosi unrhyw sgil-effeithiau ac a yw'n werth y gost.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
  • Profiad personol fel rhiant yn gofalu am blentyn sy'n cael heintiau yn y glust yn aml
  • Gallu rhannu syniadau defnyddiol a gweithio'n dda gydag eraill
  • Gallu siarad yn dda a gwrando'n glir
  • Deall yr anawsterau sy'n wynebu rhieni, teuluoedd a phlant sy'n ymdrin â heintiau rheolaidd yn y glust
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
  • Gofynnir i chi fynychu cyfarfodydd, adolygu a rhoi adborth ar ddogfennau sy'n ymwneud â'r astudiaeth.
  • Byddwch chi’n gweithredu fel cyfaill beirniadol, gan roi cyngor i'r tîm ymchwil sy'n canolbwyntio ar yr hyn sydd orau i gleifion.
  • Gofynnir chi a hoffech chi fod yn gyd-ymgeisydd ar y cais am gyllid.
Am faint fydd fy angen?
  • Byddwch yn mynychu cyfarfodydd hyd at y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gyllid ar 11 Medi.
  • Os yw'r astudiaeth yn llwyddiannus yn ei chais am gyllid, gofynnir eich bod:
  • yn rhan o'r prosiect hwn am tua phedair i bum mlynedd.
  • yn mynychu cyfarfodydd misol 60 munud o hyd. Bydd pobl eraill fel chi yn mynychu'r cyfarfodydd, felly efallai y byddwch chi'n cymryd eich tro yn mynychu.
  • yn treulio tuag awr neu ddwy awr cyn pob cyfarfod yn adolygu rhai dogfennau.
  • hefyd yn aelod o grŵp mwy o'r enw Grŵp Cynghori Cyhoeddus, sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
  • Bod yn rhan o brosiect ymchwil sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ganlyniadau gofal iechyd a phrofiadau cleifion
  • Ennill profiad o gyfrannu at ymchwil glinigol a dylanwadu ar ddylunio a chyflwyno astudiaethau
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).

Darllenwch ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn. 

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Canolfan Treialon Ymchwil

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm