nyrs yn paratoi cyfranogwr ymchwil ar gyfer brechlyn

Blwyddyn o ymchwil I COVID-19 yng Nghymru

10 Mawrth

Ar 28 Chwefror, cadarnhawyd bod y person cyntaf yng Nghymru wedi cael prawf cadarnhaol ar gyfer feirws o'r enw coronafeirws.

Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, ar 10 Mawrth agorodd yr astudiaeth iechyd cyhoeddus frys gyntaf ar gyfer COVID-19 yng Nghymru, astudiaeth arsylwadol a oedd yn galluogi'r gymuned wyddonol i ddeall mwy am ledaeniad yr haint marwol hwn. Y diwrnod canlynol ar 11 Mawrth, cadarnhaodd Sefydliad Iechyd y Byd ein bod mewn gwirionedd mewn pandemig.

Am flwyddyn gyfan, mae cymuned ymchwil Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu amryw o frechlynnau, gan hefyd edrych ar driniaethau, diagnosis a phrofion newydd. Mae'r ymdrech ymchwil hon wedi dod â'r GIG, y byd academaidd, staff ymchwil, gwirfoddolwyr a chleifion a'u teuluoedd at ei gilydd.

Mae Cymru wedi bod yn rhan o 46 o astudiaethau ymchwil iechyd cyhoeddus brys, sy’n nifer syfrdanol, gan gynnwys cynllun treialu brechlynnau sydd wedi darparu llwybr hanfodol allan o'r pandemig (penderfynir ar yr astudiaethau iechyd cyhoeddus brys drwy banel blaenoriaethu yn y DU).

Mae dros 36,000 o gyfranogwyr wedi’u recriwtio i 114 o astudiaethau ymchwil COVID-19 o dan arweinyddiaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae'n garreg filltir ryfedd i'w nodi ac yn bendant nid oeddwn i’n meddwl y byddem ni yn y sefyllfa hon 365 diwrnod yn ddiweddarach.

"Mae'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni yng Nghymru yn rhyfeddol. Mae'r GIG a'r byd academaidd wedi dod at ei gilydd fel cymuned ac rydym ni wedi gallu rhoi Cymru ar y map o ran ei gallu i fod yn ymatebol, i sefydlu astudiaethau yn gyflym iawn ac yna cyflawni o ddifrif, o ran recriwtio'n llwyddiannus i'r astudiaethau hynny.

"Hefyd, ni fyddem ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw heb ymdrechion eithriadol y staff cyflenwi, gwirfoddolwyr, teuluoedd cleifion a gofalwyr sydd i gyd wedi bod yn hanfodol yn ein hymdrechion ymchwil."

Yn ystod y 365 diwrnod diwethaf mae ymchwil COVID-19 wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pob un ohonom ni. Dyma drosolwg o'r astudiaethau sy'n dangos sut yr ydym, nawr yn fwy nag erioed, yn dibynnu ar ymchwil.

Yn fwyaf nodedig, ceir cyfraniad Cymru i'r cynllun treialu brechu cenedlaethol. Gydag arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru rydym wedi recriwtio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer brechlyn Rhydychen/AstraZeneca, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer brechlyn Novavax ac yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar gyfer brechlyn Janssen. Nid yw’r ymchwil i frechlynnau wedi dod i ben a bydd yn parhau i ddatblygu ac ymateb i'r feirws.am fisoedd a blynyddoedd i ddod.

Yn ogystal â'r cynllun treialu brechu, mae Cymru hefyd wedi bod yn rhan o ymchwil allweddol i driniaethau gan gynnwys cynllun treialu o'r enw RECOVERY sydd wedi gweld mwy na 1,000 o gyfranogwyr o Gymru yn derbyn triniaeth o fewn yr astudiaeth ar draws saith sefydliad GIG yng Nghymru. Mae'r astudiaeth yn helpu i nodi triniaethau ar gyfer pobl sy'n mynd i'r ysbyty gyda COVID-19 a amheuir neu a gadarnhawyd. Mae'r cynllun treialu wedi dangos bod steroid cost isel (dexamethasone) yn lleihau marwolaeth gan hyd at draean yn y rhai sydd â chymhlethdodau anadlu difrifol a gallai’r cyffur arthritis, tocilizumab achub 1 o bob 25 o bobl sy'n ddifrifol wael gyda coronafeirws. Mae'r astudiaeth hefyd wedi bod yn werthfawr o ran dangos bod triniaethau eraill nad ydynt yn dangos unrhyw fudd clinigol (y gwrthfiotig azithromycin, therapi plasma ymadfer, hydroxychloroquine).

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r holl fyrddau iechyd sydd â darpariaeth gofal dwys yng Nghymru wedi recriwtio, ac yn dal i wneud hynny, i’r cynllun treialu REMAP-PAC, sydd â’r nod o nodi triniaethau a allai fod yn llesol i bobl sy'n ddifrifol wael gyda COVID-19 a bod angen gofal dwys arnynt. Mae'r cynllun treialu wedi dangos bod dau gyffur arthritis gwynegol (tocilizumab a sarilumab) yn lleihau'r risg o farwolaeth gan bron i 10%.

Yn y gymuned, nod astudiaeth PRINCIPLE yw dod o hyd i driniaethau ar gyfer pobl sydd â haint COVID-19 ysgafnach ac nad oes angen iddynt fynd i'r ysbyty. Gall y rhai hynny sydd â symptomau coronafeirws, neu haint COVID-19 a gadarnhawyd, fod yn rhan o'r cynllun treialu hwn o unrhyw le yng Nghymru. Yn fwyaf diweddar, canfuwyd nad yw dau wrthfiotig a ragnodir yn gyffredin, azithromycin a doxycycline, yn darparu unrhyw les  i gleifion dros 50 mlwydd oed ac sy'n cael triniaeth ar gyfer COVID-19 gartref, sydd yr un mor bwysig i roi tystiolaeth werthfawr i glinigwyr i lywio eu triniaeth o gleifion â COVID-19 yn y gymuned.

Heb enwi pob un o'r 46 o astudiaethau iechyd cyhoeddus brys, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos cyfraniad cymuned ymchwil Cymru. Ymhlith yr astudiaethau parhaus mae ymchwil genetig i ddeall effeithiau amrywiol y feirws ar bobl a chefnogi'r gwaith o chwilio am driniaethau; deall heintio ac ail-heintio ymhlith gweithwyr gofal iechyd, gan gynnwys y cyfnod ôl-frechu; mewn covid hir, ymchwilio i driniaethau cyffuriau newydd a rhoi pwrpas newydd i gyffuriau a datblygu triniaethau ar ôl bod yn yr ysbyty.

Mae'r holl ymchwil byd-eang a chenedlaethol yn cael ei ddwyn ynghyd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Chanolfan Dystiolaeth COVID-19 gyntaf Llywodraeth Cymru sy'n dadansoddi'r effaith ac yn defnyddio ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i'r afael â heriau newydd o ganlyniad i'r pandemig byd-eang.

Dywedodd y Cyfarwyddwr sydd newydd ei benodi, yr Athro Adrian Edwards: "Mae cannoedd o astudiaethau wedi'u comisiynu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar draws ystod o bethau.

"Yr hyn nad ydym ni eisiau bod yn ei wneud yw ailadrodd pethau ac ailddyfeisio'r olwyn. Byddwn yn gallu nodi'r dystiolaeth, yn aml yn canfod ei bod wedi ei harchwilio mewn mannau eraill, a chynnig atebion yn gyflym iawn. Rydym ni i gyd eisiau dod drwy'r pandemig a gweld sut mae bywyd yn edrych ar yr ochr arall. Gall ymchwil a thystiolaeth roi'r gobaith sydd ei angen ar bob un ohonom ni ar hyn o bryd."

Ymchwil yw'r ffordd allan o'r pandemig hwn.

Mae'n bwysig cydnabod pa mor bell yr ydym ni wedi dod a diolch i bawb sy'n gysylltiedig nid yn unig am y gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ond am flynyddoedd lawer o waith i'n cael ni i’r fan yma heddiw.