Buddsoddi £44 miliwn ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
2 Mawrth
Mae canser, dementia, iechyd meddwl a llesiant plant ymysg y meysydd allweddol sydd wedi derbyn arian ar gyfer y pum mlynedd nesaf oddi wrth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Maen nhw’n rhan o fuddsoddiad £44 miliwn oddi wrth Llywodraeth Cymru ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol i wella gofal a gwasanaethau.
Er enghraifft, dyfarnwyd £4.8 miliwn i Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, sy’n datblygu a rheoli ymchwil canser, gan gynnwys astudiaethau i driniaethau arloesol newydd a diagnosis cynharach.
Mae yna gyllid newydd o £2.45 miliwn hefyd wedi’i ddyfarnu i Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE). Nod CASCADE ydy gwella llesiant, diogelwch a hawliau plant a’u teuluoedd.
Dyma rai grwpiau eraill sy’n cael eu hariannu:
- Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (£2.8 miliwn) – canolfan ymchwil o’r radd flaenaf sy’n ceisio ateb cwestiynau allweddol ynglŷn â heneiddio a dementia, i wella bywydau pobl hŷn.
- Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (£4.7 miliwn) – canolfan ymchwil o’r radd flaenaf sy’n gweithio i ddysgu mwy am y pethau sy’n sbarduno ac yn achosi problemau iechyd meddwl, o’r amgylchedd a phrofiadau bywyd hyd at wneuthuriad biolegol a geneteg pobl.
- Y Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (SAIL) (£4.5 miliwn) – banc data rhyngwladol cydnabyddedig o ddata dienw ynglŷn â phoblogaeth Cymru, y gellir ei gyrchu ar gyfer ymchwil i wella iechyd, llesiant a gwasanaethau cleifion.
- Economeg Iechyd a Gofal Cymru (£1.1 miliwn) – gwasanaeth Cymru-eang y mae Prifysgol Bangor yn ei arwain, i ddarparu cefnogaeth economeg iechyd ar gyfer ymchwil ac i wella’r penderfynu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
- Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd Cyhoeddus (DECIPHer) (£2.4 miliwn) – mae’r ganolfan yn canolbwyntio ar iechyd a llesiant plant a phobl ifanc, gan ddod â phrif arbenigwyr at ei gilydd i fynd i’r afael â materion iechyd cyhoeddus fel diet a maeth, gweithgarwch corfforol; a thybaco, alcohol a chyffuriau.
Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru, ‘Cymru Iachach’, yn manylu ar weledigaeth i gyflenwi’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol iawn, ar yr adeg ac yn y lle y mae ar bobl eu hangen nhw fwyaf.
“Mae gan ymchwil ran hollbwysig i’w chwarae i gyflawni’r weledigaeth honno – gan wneud yn siŵr fod pobl yn gallu cael y gofal diweddaraf sydd ei angen arnyn nhw i aros yn iach a hefyd y gofal gorau posibl pan fyddan nhw’n mynd yn sâl.”
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cynhyrchu ac yn cefnogi ymchwil ragorol i wella iechyd a gofal pobl yng Nghymru. Mae’n gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys rhedeg cynlluniau ariannu ar gyfer prosiectau ansawdd uchel a chydweithio â’r GIG, academyddion, y diwydiant, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector.
Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Mae’n hanfodol buddsoddi ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae ymchwil wedi darparu tystiolaeth inni ar gyfer y gwasanaethau a’r gofal rydyn ni’n eu darparu heddiw, a bydd ymchwil yn y dyfodol yn helpu i ddatblygu triniaethau a gwasanaethau newydd i wella gofal i bobl a chymunedau yng Nghymru.
“Yn ogystal â sicrhau bod cyllid yn parhau ar gyfer meysydd allweddol fel canser, iechyd meddwl a dementia, rydyn ni hefyd wrth ein boddau ein bod ni’n gallu cefnogi a chyflenwi ymchwil mewn meysydd newydd fel llesiant plant a rhagnodi cymdeithasol.
“Mae’r cyllid hwn yn galluogi ymchwil ragorol i barhau yng Nghymru; ymchwil sydd yn mynd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”
Seilwaith Datblygu Ymchwil 2020 Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia - £2,850,462.00
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl - £4,749,752.05
Canolfan Ymchwil Canser Cymru - £4,875,000.00
Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw - £4,545,558.17
Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys - £4,856,662.47 gan gynnwys £221, 916.00 ar gyfer Sefydliad Cymru ar gyfer Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol
Banc Canser Cymru - £2,412,527.01
Parc Geneteg Cymru - £3,895,000.38
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth - £3,356,124.15
Canolfan Treialon Ymchwil - £2,470,489.26
Uned Dreialon Abertawe - £1,053,377.00
Cymdeithas Hap-dreialon Iechyd Gogledd Cymru - £1,101,000.00
Economeg Iechyd a Gofal Cymru, sef Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru gynt- £1,163,600.00
Partneriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant - £2,457,081.00
Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd Cyhoeddus - £2,488,487.00
Uned Cyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol - £757,000.00
Uned Ymchwil Arennol Cymru - £450,000.00
Ymchwil Diabetes Cymru - £192,500.00
Ymchwil Gamblo, Rhwydwaith Gwerthuso a Thrin Cymru - £75,000.00