Woman in PPE

Buddsoddiad o £3 miliwn i edrych ar effaith COVID-19 ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

1 Rhagfyr

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn creu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 gyntaf Cymru ar ran Llywodraeth Cymru i ddadansoddi effaith y coronafeirws a defnyddio tystiolaeth seiliedig ar ymchwil i fynd i’r afael â heriau newydd o ganlyniad i’r pandemig byd-eang.

Bydd y tîm penodedig yn y Ganolfan Dystiolaeth newydd yn gweithio’n agos gydag arweinwyr yn Llywodraeth Cymru, y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddarparu’r dystiolaeth angenrheidiol i wneud penderfyniadau a fydd yn cael effaith ar ddiagnosis, gofal a gweithdrefnau.

Mae pandemig COVID-19 wedi dangos pwysigrwydd ymchwil a thystiolaeth i iechyd a gofal yng Nghymru a’u pwysigrwydd i wneud penderfyniadau ar bob lefel yn y system iechyd a gofal.

Yn ogystal ag effaith byrdymor y feirws bydd y Ganolfan Dystiolaeth yn edrych ar faterion tymor hwy megis rheoli heintiau a chadw pellter cymdeithasol, effeithiau ynysu ac effeithiau iechyd yr aflonyddwch economaidd.

Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd sbon Cymru yn datblygu gwaith blaenorol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sydd wedi bod wrth wraidd yr ymdrech ymchwil ryngwladol, gan gyd-lynu tri threial brechlyn hyd yn hyn yn ogystal â nifer o astudiaethau iechyd cyhoeddus brys mewn partneriaeth â’r GIG a phrifysgolion ledled Cymru.

Dywedodd Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

“Mae dod â’r pandemig i ben yn dibynnu’n sylfaenol ar ymchwil yn cyflwyno datrysiadau i ddiagnosis, triniaeth ac atal.

“Mae angen i nifer o benderfyniadau allweddol ehangach - megis sut a phryd i roi mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, neu pa gyngor i roi i bobl wrth iddynt ddychwelyd i’r gwaith - gael eu llywio gan dystiolaeth gadarn.

“Rydym ni o’r farn ei bod hi’n bwysig i greu tîm penodedig yng Nghymru gyda’r unig gyfrifoldeb o ganolbwyntio ar sut y mae COVID-19 wedi newid y sector iechyd a gofal yn yr hirdymor, nid yn unig i helpu’r rheini ar draws y wlad ond o bosibl ar draws y byd.”

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: 

“Mae ymchwil yn hynod o bwysig yn ein brwydr yn erbyn pandemig y coronafeirws ac mae potensial i’r hyn yr ydym ni’n ei ddysgu nawr fod o fudd i ni am genedlaethau i ddod.

“Bydd y Ganolfan Dystiolaeth hon yn helpu i ffurfio ein dealltwriaeth o effeithiau pellgyrhaeddol COVID-19 a bydd yr hyn y byddwn ni’n ei ddysgu yn llywio ein penderfyniadau wrth symud ymlaen.”

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru nawr yn bwriadu penodi cyfarwyddwr i fod â’r cyfrifoldeb arweiniol dros Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru a goruchwylio’r ganolfan a fydd yn cynnwys rhai o’r academyddion a’r gwyddonwyr mwyaf talentog ledled y wlad.

Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wefan am ymchwil COVID-19 yng Nghymru sy’n manylu ar yr holl astudiaethau ymchwil cysylltiedig sydd ar waith, neu ar y gweill, yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm cyfathrebu yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.