man working in lab

Buddsoddiad yn y DU i hybu ymchwil ledled Cymru

11 Mehefin

Mae dros £18 miliwn wedi'i ddyfarnu i sefydliadau'r GIG ledled Cymru yn y don gyntaf o fuddsoddiad sy'n galluogi'r GIG yng Nghymru i gynnal mwy o ymchwil glinigol fasnachol.

Ariennir y buddsoddiad hwn gan y Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaeth wedi'u Brandio (VPAG), cytundeb rhwng pedair gwlad y DU a'r diwydiant fferyllol i ddarparu buddsoddiad sylweddol (cyfanswm o £400miliwn) i sector iechyd a gwyddorau bywyd y DU yn ystod 2024-2029.

Bydd Cymru yn derbyn £22.1 miliwn i gryfhau gallu'r GIG i gynnal ymchwil glinigol fasnachol. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi ehangu a gwella seilwaith ymchwil presennol ac yn darparu adnoddau hyblyg i gynyddu capasiti'r gweithlu a gwella cyflwyno treialon clinigol.

Drwy broses gystadleuol, mae £8 miliwn wedi'i ddyrannu i gyfleusterau ymchwil pwrpasol, gan gydnabod bod gan Gymru y record orau o ran cyflwyno treialon masnachol a lle mae potensial i ehangu'r cynnig hwnnw yn gyflym a denu mwy o astudiaethau i Gymru. Gyda'i gilydd, byddant yn ffurfio Canolfan Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru (CRDC Cymru) ac yn rhan o Rwydwaith CRDC y DU:

  • Cyfleuster Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru (wedi'i leoli yn Wrecsam)
  • Ffibrosis Systig ac Ymchwil Anadlol (wedi'i leoli yng Nghaerdydd)
  • Neffroleg a Thrawsblaniadau (wedi'i leoli yng Nghaerdydd)
  • Uned Ymchwil Plant ac Oedolion Ifanc (wedi'i lleoli yng Nghaerdydd)
  • Canolfan Ganser Felindre (wedi'i lleoli yng Nghaerdydd)

Yn ogystal, mae £2.5 miliwn wedi'i ddyfarnu i dimau/unedau sydd â'r potensial i ddatblygu eu gallu i gyflawni ymchwil yn gyflym o fewn 1-2 flynedd i ymuno â CRDC Cymru. 

  • Ymchwil therapïau uwch (gwasanaeth Cymru Gyfan yng Nghaerdydd)
  • Canolfan Gyflenwi Gofal Sylfaenol a Chymunedol newydd (Cymru gyfan)
  • Uned ymchwil niwroleg (Caerdydd)

Mae £7miliwn arall hyd yma wedi'i ddyfarnu i dimau/unedau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ac ehangu cyflwyno ymchwil fferyllol fasnachol a sefydlu hanes dros 1 i 4 blynedd:

  • Clustiau, Trwyn a Gwddf (Caerdydd)
  • Anadlol (Hywel Dda)
  • Canser (Abertawe)
  • Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (wedi'i leoli yng Nghaerdydd)
  • Clefydau Prin (Caerdydd)
  • Gwasanaethau fferylliaeth, delweddu, patholeg ledled Cymru

Bydd £2.5 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar fentrau rhaglenni i sicrhau bod ymchwil fasnachol yn cael ei hwyluso ar lefel genedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys goruchwylio'r rhaglen fuddsoddi VPAG, hwyluso'r dull unwaith i Gymru lle bo hynny'n bosibl a chefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau cenedlaethol fel Trechu Canser drwy Ymchwil. Bydd £1 miliwn arall yn cael ei neilltuo i wella systemau cyflenwi a chaffael offer, gan gryfhau'r seilwaith sydd ei angen i gefnogi gweithgareddau ymchwil masnachol. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi, Dr Nicola Williams: "Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn gwella ein gallu presennol i gynnal ymchwil glinigol fasnachol ledled Cymru"

I gael rhagor o wybodaeth am VPAG a chyfleoedd cyllido sydd ar gael yn y dyfodol, ewch i Buddsoddi mewn cyflawni ymchwil fasnachol