Astudiaeth newydd â’r nod o gynyddu dealltwriaeth o seicosis ôl-enedigol
22 Mai
Mae astudiaeth y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei hariannu’n gobeithio deall mwy am y pethau sy’n achosi seicosis ôl-enedigol.
Yr Athrawon Ian Jones ac Arianna Di Florio yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) yng Nghaerdydd fydd yn arwain astudiaeth Mamau ac Iechyd Meddwl (MAM).
Mae seicosis ôl-enedigol yn salwch meddwl difrifol sy’n effeithio ar ryw un ym mhob 500 o famau. Mae symptomau fel rheol yn datblygu o fewn dwy wythnos ar ôl cael babi ac maen nhw’n gallu cynnwys rhithwelediadau, lledrithiau a newidiadau cyflym mewn hwyliau. Dylid trin seicosis ôl-enedigol fel argyfwng meddygol ond, gyda’r driniaeth a’r gefnogaeth iawn, mae’r mwyafrif o bobl yn gwella’n llwyr ohono. Mae’r Athro Jones yn esbonio:
Prin ydy’r pethau sy’n fwy anodd na chael cyfnod o seicosis ôl-enedigol yn y ddyddiau cynnar hynny ar ôl cael babi. Mae’r disgwyliad y dylai hwn fod yr amser mwyaf llawen yn eich bywyd yn dod yn un o’r cyfnodau mwyaf difrifol o salwch seiciatrig rydyn ni’n ei weld. Mae angen i ni ddeall pethau’n well ar gyfer y nifer anferthol o fenywod sy’n dioddef o seicosis ôl-enedigol.”
Bu’r tîm yn cynnal yr astudiaeth fwyaf o seicosis ôl-enedigol mewn menywod a oedd wedi cael diagnosis o anhwylder hwyliau o’r blaen, gan weld bod menywod ag anhwylder deubegynol math 1 mewn risg sylweddol uwch o seicosis ôl-enedigol. Dylanwadodd hyn ar Ganllawiau Clinigol NICE ar iechyd meddwl cynenedigol ac ôl-enedigol, yn ogystal ag arwain gwaith datblygu gwasanaethau cefnogi gwell ar gyfer mamau, dan y Gynghrair Iechyd Meddwl Mamau. Mae hyfforddiant, a ddatblygwyd ochr yn ochr â Gweithredu ar Seicosis Ôl-enedigol (APP), hefyd wedi’i gyflenwi i seiciatryddion, meddygon teulu, fferyllwyr a bydwragedd.
Bu ymchwilwyr hefyd yn gweithio gyda sgriptwyr ar stori am seicosis ôl-enedigol ar Eastenders y BBC, gan godi ymwybyddiaeth hanfodol ac arwain at gynnydd o 400% mewn menywod yn cysylltu ag APP. Parhaodd yr Athro Jones:
Mae ein hymchwil wedi dwyn sylw at lawer o’r ffactorau sy’n gwneud menywod yn fwy tueddol o ddioddef o’r cyflwr difrifol hwn. Nawr, mae canllawiau’n argymell, os yw menyw wedi dioddef o unrhyw salwch meddwl difrifol neu anhwylder deubegynol yn y gorffennol neu ar y pryd, neu os oes yna hanes teulu agos o salwch meddwl ôl-enedigol difrifol, y dylai clinigwyr fod yn wyliadwrus am symptomau posibl seicosis ôl-enedigol yn y ddwy wythnos gyntaf ar ôl cael babi.”
I gael gwybod mwy am yr astudiaeth a sut y gallech chi gymryd rhan, ewch i arolwg Mamau ac Iechyd Meddwl (MaM) | NCMH.