A collage of four smiling babies.

Astudiaeth newydd i helpu i achub bywydau babanod yn cael ei lansio yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru

1 Rhagfyr

Bydd astudiaeth newydd o'r enw HARMONIE yn ymchwilio i effeithlonrwydd triniaeth newydd yn erbyn y Feirws Syncytiol Anadlol (RSV). Mae RSV yn hynod gyffredin mewn babanod a phlant a gall fod yn fygythiad i fywyd gan nad oes triniaeth na brechlyn penodol ar ei gyfer ar hyn o bryd.

Y Feirws Syncytiol Anadlol  (RSV)

Yn cael ei ledaenu gan beswch a thisian, mae RSV yn effeithio ar tua 20,000 o fabanod yng Nghymru bob blwyddyn ac yn achosi salwch ysgafn, tebyg i annwyd, y rhan fwyaf o’r amser. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall arwain at broblemau ysgyfaint mwy difrifol fel bronciolitis a niwmonia.

Dywedodd Katie Edwards o Gaerdydd, y cafodd ei gefeilliaid bronciolitis drwy RSV pan oeddent yn chwe wythnos oed, ac y bu’n rhaid eu derbyn i’r ysbyty mewn ambiwlans:

Roedd yn gyfnod hynod bryderus ac yn anodd iawn gweld ein babanod mor wael. Aethant yn gyntaf i'r ward ac yna i'r Uned Dibyniaeth Fawr yn yr ITU Pediatrig ar gyfer ymyriadau i gefnogi eu hanadlu. Roedden ni’n teimlo mor ddiymadferth yn eu gwylio’n ofidus ac yn cael trafferth anadlu.”

Dywedodd yr Ymchwilydd ac Arweinydd Arbenigedd Plant a Phobl Ifanc Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dr Philip Connor:

Rydym yn gobeithio y bydd y driniaeth gwrthgyrff hon yn lleihau’r baich a’r trawma sylweddol y mae baban ag RSV yn yr ysbyty yn ei roi ar yr unigolyn a’i deulu.”

Cychwyn yr astudiaeth

Bydd astudiaeth HARMONIE, sy’n cael ei lansio yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, yn cynnwys cymaint â 28,860 o fabanod o’r DU, Ffrainc a’r Almaen. Yn ystod y treial hwn, bydd triniaeth gwrthgyrff newydd yn cael ei rhoi trwy bigiad yn y glun i fabanod iach hyd at 12 mis oed. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu neilltuo ar hap i un o ddau grŵp, un yn derbyn y driniaeth newydd ac un arall a fydd yn cael gofal safonol.

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Mae’r astudiaeth hon yn hynod o amserol wrth i ni nesáu at dymor annwyd a ffliw. Rydym yn falch o allu cynnig cyfle i rieni ystyried yr astudiaeth bwysig hon ar gyfer eu babanod, ac rydym yn falch o’n nyrsys ymchwil plant arbenigol a gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n cefnogi rhieni a phlant i gymryd rhan yn yr astudiaethau hyn.”  

Rydym yn annog cymaint o rieni â phosibl i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon i helpu amddiffyn eu plentyn y gaeaf hwn.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon, ewch i wefan astudiaeth HARMONIE, e-bostiwch y tîm HARMONIE neu ffoniwch 02921 847816/840366.