Iain Whitaker a Simon Weston

Ymchwilwyr Abertawe yn llywio’r astudiaeth fwyaf yn y byd ar greithiau ar yr wyneb ac iechyd meddwl

11 Hydref

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cwblhau’r astudiaeth fwyaf yn y byd ar y cysylltiad rhwng creithiau ar yr wyneb ac iechyd meddwl, wedi’u hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Scar Free Foundation

Defnyddiodd yr astudiaeth ddata o’r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) i gymharu cofnodion meddygon teulu dienw 179,079 o bobl sydd â chreithiau ar yr wyneb yng Nghymru â’r un nifer o bobl heb greithiau. Yna, aeth ati i adolygu eu statws economaidd-gymdeithasol, oedran cael craith ar yr wyneb, a rhywedd i benderfynu faint a oedd yn cael triniaeth ar gyfer gorbryder ac iselder. 

Canfu astudiaeth AFFECT (Assessing the burden oF Facial scarring and associated mEntal health Conditions to identify patients at greatesT risk) fod pobl â chreithiau ar yr wyneb o ganlyniad i hunan-niweidio, ymosodiad neu anafiadau trawmatig fel llosgiadau a chyflyrau cynhenid, yn fwy tebygol o ddioddef o orbryder ac iselder o gymharu â'r boblogaeth ehangach.

Canfu hefyd fod y rhai sy’n profi creithiau oherwydd cyflyrau cynhenid ​​yn llai tebygol o gael cymorth iechyd meddwl, a bod mwy o risg y bydd menywod a phobl â hanes o iechyd meddwl gwael yn datblygu gorbryder ac iselder os ydynt yn dioddef creithiau ar yr wyneb.

Gallai hyn newid sut mae cleifion â chreithiau ar yr wyneb yn cael eu cefnogi.

Dywedodd yr Athro Iain Whitaker, Prif Ymchwilydd ar yr Astudiaeth AFFECT:

“Rwyf wedi bod yn llawfeddyg plastig ers 20 mlynedd, ac rwy'n gweld nifer enfawr o gleifion ag anafiadau i'w hwynebau. Mae pob llawdriniaeth yn gadael craith, ond nid oes cymorth seicolegol i gleifion ar hyn o bryd.

“Mae'n bwysig i mi fel meddyg fy mod yn gwybod beth yw ôl-effeithiau triniaeth ar fy nghleifion y tu hwnt i'r effeithiau corfforol uniongyrchol. Rwyf am roi gwell gwybodaeth a gwell profiad i fy nghleifion.

“Rwy'n gobeithio y bydd yr ymchwil hwn yn arwain at system cymorth iechyd meddwl fwy cadarn i gleifion â chreithiau ar yr wyneb”.

Ychwanegodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae gan un o bob 100 o bobl yn y DU wahaniaeth sylweddol i’r wyneb, a gall hyn gael effaith aruthrol ar iechyd meddwl cleifion. 

“Bydd yr ymchwil yn hybu’r broses o ddatblygu triniaeth cartilag wyneb bioargraffu 3D (clustiau a thrwynau) yn y dyfodol ar gyfer pobl yn y DU a ledled y byd sydd naill ai'n cael eu geni heb rannau o'r corff neu sy'n byw gyda chreithiau ar yr wyneb o ganlyniad i losgiadau, trawma neu ganser.

“Rwy’n siarad ar ran pob un ohonom yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru pan ddywedaf ein bod yn falch o’n cydweithrediad ac yn edrych ymlaen at ddyfodol ymchwil dim creithiau”.

Michael Bowdery at Swansea Centre