Dr Ashra Khanom

Rhaglen addysg gymunedol yn gobeithio cynyddu presenoldeb lleiafrifoedd ethnig mewn archwiliadau sgrinio diabetes pwysig

10 Tachwedd

I nodi Diwrnod Diabetes y Byd ar 14 Tachwedd 2023, bydd ymchwilwyr a gaiff eu hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn trafod rhaglen addysg gymunedol newydd Cymru gyfan gyda’r nod o gynyddu presenoldeb mewn archwiliadau dilynol ar gyfer diabetes ymhlith pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

Mae’r astudiaeth, o’r enw CYMELL, yn cael ei harwain gan ymchwilwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chanolfan PRIME Cymru, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a bydd yn cael ei dreialu gyda chefnogaeth pum meddygfa ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig hyd at bum gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu diabetes math 2, ac yn aml maent yn datblygu’r cyflwr yn iau, sef 40 y cant o achosion diabetes math 2 sy’n cael diagnosis cyn 40 oed.

Nod Diwrnod Diabetes y Byd eleni yw tynnu sylw at effaith cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â diabetes a phwysigrwydd cael mynediad at y wybodaeth, y gofal a’r driniaeth gywir i’w rheoli. Mae pobl â diabetes yn cael cynnig archwiliadau dilynol rheolaidd i fonitro cymhlethdodau. Fodd bynnag, mae nifer y rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig sy'n manteisio ar yr archwiliadau sgrinio hyn yn isel o gymharu â'r boblogaeth wyn Prydeinig. Gall hyn eu rhoi mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau megis colli golwg, niwed i'r arennau a phroblemau nerfol a all arwain at fod angen tynnu troed neu goes.

Dywedodd yr ymchwilydd Dr Ashra Khanom, o Ganolfan PRIME Cymru, Prifysgol Abertawe:

Gyda’r cymorth a’r rheolaeth gywir, mae’n bosibl byw bywyd da gyda diabetes math 2 ac osgoi cymhlethdodau rhag datblygu. Gobeithio y bydd y rhaglen hon yn darparu tystiolaeth ar sut i wella’r nifer sy’n cael archwiliadau dilynol ar gyfer diabetes ac yn cefnogi pobl o’r cymunedau hyn i reoli eu cyflwr.”

Bydd CYMELL yn cael ei gyflwyno gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ochr yn ochr â sefydliadau trydydd sector, gyda gwybodaeth hawdd ei darllen ar gael mewn sawl iaith wahanol, gan gynnwys Wrdw, Bengali, Somalieg ac Arabeg.

Mae Thanuja Hettiarachchi yn aelod o'r tîm Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd a helpodd i ddatblygu'r astudiaeth. Dywedodd Thanuja,

Rwyf wrth fy modd yn cefnogi’r fenter hollbwysig hon. Mae tîm yr astudiaeth wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau ac anghenion unigolion o leiafrifoedd ethnig yn cael eu clywed a'u hintegreiddio i arferion gofal iechyd.

“Datblygodd fy ngŵr ddiabetes pan oedd yn oedolyn felly mae gen i brofiad o gefnogi rhywun â’r cyflwr. Mae gofal iechyd sy’n ddiwylliannol sensitif, sy’n meithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth, yn bwysig i rymuso unigolion o leiafrifoedd ethnig gyda gwybodaeth, canfod y cyflwr yn gynnar a mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.”

Thanuja Hettiarachchi

I gael rhagor o wybodaeth am CYMELL, ewch i CYMELL (primecentre.wales)