Dr Leigh Sanyaolu yn ei glinig

“Gwrthfiotigau neu sudd llugaeron?” – Astudiaeth i gefnogi lles menywod sy’n cael heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol

21 Medi

Mae ymchwil sydd wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gobeithio cynhyrchu cymhorthyn gwneud penderfyniadau i helpu menywod sy’n cael heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol i wneud penderfyniadau gwybodus am yr opsiynau sydd ar gael iddynt o ran triniaeth.

Mae heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol yn cael eu diffinio fel dau haint yn y llwybr wrinol mewn chwe mis, neu tri mewn 12 mis. Mae heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol yn gyffredin ymhlith menywod, ac amcangyfrifir bod tri y cant o fenywod yn y DU yn dioddef o’r cyflwr.

Dywedodd Dr Leigh Sanyaolu, sy’n feddyg teulu yn Nhorfaen ac yn Gymrawd Doethurol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru / NIHR ym Mhrifysgol Caerdydd, “mae ymchwil wedi dangos y bydd tua hanner menywod yn cael o leiaf un haint yn y llwybr wrinol yn ystod eu bywyd ac y bydd tua 40 o fenywod yn cael haint arall yn y llwybr wrinol ymhen blwyddyn”.

Dywedodd: “Gall heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol gael effaith fawr ar fywydau menywod a gallan nhw effeithio ar eu gallu i weithio ac i weithredu fel arfer. Gallan nhw hefyd gael effaith sylweddol ar iechyd meddwl menywod ac mae rhai yn poeni am y posibilrwydd y byddan nhw’n cael heintiau eraill yn y llwybr wrinol yn y dyfodol”.

“Yn gyffredinol, y brif driniaeth i atal heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol yw gwrthfiotigau hirdymor, dos isel, y dangoswyd eu bod yn effeithiol. Y pryder yw bod heintiau yn datblygu sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau, ond nid yw effaith gwrthfiotigau hirdymor ar ymwrthedd yn glir ar hyn o bryd.”

“Mae sawl opsiwn nad ydynt yn ymwneud â gwrthfiotigau, ond rydym yn gwybod llawer llai am ba mor effeithiol ydyn nhw. Mae’n hollbwysig deall effeithiau hirdymor gwrthfiotigau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer y cyflwr hwn a pha mor effeithiol yw opsiynau eraill.”

Bydd Dr Sanyaolu yn defnyddio data gofal iechyd o Fanc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) i gael darlun mwy cywir o faich y cyflwr.

Bydd yr astudiaeth yn edrych ar fenywod sy’n cael heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol dros gyfnod o 11 mlynedd. Bydd y tîm ymchwil hefyd yn edrych ar y rhai sy’n cymryd gwrthfiotigau hirdymor a’r rhai nad ydynt yn gwneud hynny, ac yn cymharu effeithiau ymwrthedd i wrthfiotigau gan ddefnyddio data dienw o samplau ysbyty a samplau wrin.

“Byddwn ni hefyd yn siarad â menywod sy’n cael heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn y sector gofal sylfaenol i ddeall pa wybodaeth yr hoffen nhw ei gwybod am driniaethau i atal heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol a llywio datblygiad y cymhorthyn gwneud penderfyniadau,” dywedodd.

Mae Dr Sanyaolu yn casglu gwybodaeth am elfennau cadarnhaol a negyddol yr opsiynau triniaeth gwahanol ar gyfer heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol ac yn ei chyfuno â’r ymchwil y mae wedi’i gwneud i ddatblygu cymhorthyn gwneud penderfyniadau ar yr opsiwn gorau o ran triniaeth i atal heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol

Gall opsiynau o ran triniaeth gynnwys gwrthfiotigau hirdymor a thriniaethau eraill fel sudd llugaeron a methenamin y dangoswyd yn ddiweddar ei fod mor effeithiol â gwrthfiotigau hirdymor.

Bydd y cymhorthyn gwneud penderfyniadau yn ategu trafodaethau rhwng menywod sy’n cael heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol a’u gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ynghylch y manteision a’r anfanteision, tystiolaeth, sgil-effeithiau a’r rhesymeg dros bob opsiwn i gefnogi penderfyniadau ar y cyd i reoli eu cyflwr.

Ychwanegodd Dr Sanyaolu:

Bydd y cymhorthyn gwneud penderfyniadau yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r opsiynau gwahanol o ran triniaeth. Mae’n bwysig iawn bod y wybodaeth hon ar gael a’i bod yn hawdd i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael gafael arni.”

Fel meddyg teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae Dr Sanyaolu yn ymroddedig i ganolbwyntio ar ymchwil yn y maes hwn, gydag uchelgais o roi gobaith i fenywod sy’n byw gyda’r cyflwr.

Dywedodd:

Mae gen i ddiddordeb mewn heintiau yn y llwybr wrinol a gwella’r defnydd sy’n cael ei wneud o wrthfiotigau. Rydw i wedi gweld menywod sy’n cael heintiau rheolaidd yn y llwybr wrinol ac rydw i’n deall yr effaith sylweddol y gallan nhw ei chael arnyn nhw. Rydw i’n gwneud yr hyn a allaf i wella’r gofal sy’n cael ei roi i gleifion, nid dim ond fy nghleifion i ond cleifion yn gyffredinol hefyd.”

I gael y newyddion diweddaraf ar waith ymchwil yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.