Dr Thomas Massey

Astudiaethau Clefyd Niwronau Motor yng Nghymru yn gobeithio gwneud gwahaniaeth

21 Mehefin

I nodi diwrnod ymwybyddiaeth Clefyd Niwronau Motor (MND) Byd-eang heddiw (21 Mehefin), rydym yn edrych ar yr ymchwil sy'n digwydd yng Nghymru gyda'r gobaith o gyflymu datblygiad triniaethau a therapïau effeithiol i newid bywydau'r rhai sydd â'r clefyd. 

Mae MND yn effeithio ar y niwronau motor yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn sy'n trosglwyddo negeseuon trydanol i reoli ein cyhyrau, gan arwain at wastraffu a gwanhau cyhyrau. Amcangyfrifir bod tua 5,000 o bobl yn y DU yn byw gydag MND. 

Ar hyn o bryd mae wyth astudiaeth MND yn cael eu cynnal yng Nghymru, gyda mwy na 240 o bobl yn cymryd rhan. Mae’r astudiaethau’n amrywio o dreialon ar gyfer meddyginiaethau, i ddod o hyd i ffyrdd o wella’r arweiniad a’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i bobl ag MND, eu teuluoedd a’u gofalwyr. 

Cliciwch ar yr astudiaethau isod i ddarganfod mwy a sut y gallech chi gymryd rhan. 

Dywedodd Dr Thomas Massey, Arweinydd Arbenigedd ar gyfer Anhwylderau Niwrolegol a Dementia a Niwroddirywiad yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:  

“Rydym yn gweithio’n uchelgeisiol i wella mynediad i bobl sy’n byw gydag MND yng Nghymru i ymchwil clinigol, gan adeiladu ar ein rhwydweithiau gofal clinigol sefydledig. Mae hwn yn gyfnod cyffrous ar gyfer ymchwil MND a gobeithiwn y bydd yn arwain at driniaethau a therapïau newydd a all wella ansawdd bywyd ein cleifion."