‘Byddai gallu gwisgo sbectol heb iddyn nhw lithro i ffwrdd yn gwneud gwahaniaeth i mi’
21 Mawrth
Cafodd Tina Morgan o Ferthyr Tudful, mam 55 oed i ddau o blant, ddiagnosis o ganser y croen ar ei chlust chwith yn 2010. Roedd hi ar ei gwyliau pan deimlodd gosi ar ran uchaf ei chlust.
"Chi’n gwybod, pan fo gennych chi gosi, mae’n rhaid i chi ei grafu ond fe wnaeth chwyddo ac ar ôl tua thair wythnos doedd e’ ddim yn gwella, felly es i at fy meddyg.
"Ar y cychwyn, pan wnes i ddarganfod mai canser y croen oedd e’, roeddwn i mewn sioc. Rwy’n rhiant sengl i ddau o blant a gan fod y canser y croen yn agos iawn at fy ymennydd, roeddwn i’n pryderu’n fawr am hyd fy mywyd a’r effaith y gallai ei gael arnyn nhw."
Ymchwil arloesol
Mae rhaglen £2.5 miliwn RECONREGEN yn cael ei hariannu gan The Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r fenter tair blynedd yn ymchwilio i fioargraffu 3D arloesol o gartilag y trwyn a’r glust gan ddefnyddio celloedd dynol, yn ogystal ag astudiaeth fwyaf y byd ynghylch sut mae creithiau ar yr wyneb yn effeithio ar iechyd meddwl.
Hoffai Tina gael rhywbeth i gymryd lle’r rhan o’r glust y mae hi wedi’i cholli ac mae hi eisoes wedi ystyried triniaeth sy’n defnyddio cartilag o fannau eraill yn y corff i ail-greu’r glust.
"Doeddwn i ddim wir eisiau cael llawdriniaeth a chael un o fy asennau wedi’i thynnu, felly pan welais i’r ymchwil sy’n digwydd yn Abertawe, roeddwn i’n credu ei bod yn ffordd fwy ymarferol o helpu, nid yn unig fi, ond pobl eraill hefyd sy’n byw bob dydd gyda chreithiau difrifol ar yr wyneb. Gallai hyn newid ein bywydau."
Defnyddio celloedd dynol
Mae’r ymchwil yn cael ei harwain gan yr Athro Iain Whitaker - sy’n arwain y grŵp ymchwil llawfeddygaeth blastig fwyaf yn y DU - Cadeirydd Llawfeddygaeth Blastig yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac Arweinydd Arbenigol Llawfeddygol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Bydd y rhaglen arloesol yn datblygu bioargraffu 3D gan ddefnyddio bôn-gelloedd/celloedd cenedlyddol penodol i gartilag a nanocellulose (sy’n deillio o blanhigion) fel ‘inc biolegol’ ar gyfer ailadeiladu’r wyneb. Bydd y prosiect yn cynnwys astudiaethau gwyddonol i bennu’r cyfuniad delfrydol o gelloedd i dyfu cartilag newydd a fydd yn arwain at dreialon clinigol dynol ar gyfer ailadeiladu’r wyneb. "Rwyf wedi datblygu’r Grŵp Ymchwil yn ystod y degawd diwethaf ac mae wedi bod yn 6 mis ers i ni lansio’r rhaglen. Ar ôl recriwtio cyflenwad llawn o staff, mae ein hymchwil wir yn cyflymu," meddai’r Athro Whitaker.
"Rydym yn datblygu priodweddau mecanyddol yr inc biolegol ac yn profi’r proffil bio-gydnawsedd a diogelwch i’w ddefnyddio wrth ailadeiladu’r wyneb.
"Ochr yn ochr â’r ymchwil beirianneg meinwe ac argraffu 3D, rydym yn dadansoddi’n feirniadol llwybrau’r cleifion o ran rheoli canser y croen, a gyda’r costau personol, economaidd ac amgylcheddol enfawr mewn golwg - gan ddefnyddio technolegau arloesol fel prosesu iaith naturiol a deallusrwydd artiffisial i chwyldroi llwybrau cleifion.
"Mae’r buddsoddiad hwn wedi bod yn chwyldroadol yn hyrddio ein hymdrechion ymchwil ymlaen gyda’r nod yn y pen draw o gynnig dewisiadau triniaeth arloesol i gleifion a recriwtio ymchwilwyr eraill o’r radd flaenaf i Gymru yn y dyfodol agos iawn."
Effaith ar fywyd bob dydd
"Er fy mod i wedi dygymod â’r hyn a ddigwyddodd, cymerodd ychydig o amser i mi," meddai Tina. "Fyddwn i ddim yn gwisgo fy ngwallt i fyny am flynyddoedd ar ôl y llawdriniaeth. Rwy’n credu mai dim ond rhyw dri haf yn ôl yr oeddwn i’n teimlo’n ddigon hyderus i wneud hyn."
Cafodd Tina ei geni â nam ar ei chlyw ac er ei bod yn ymdopi heb gymorth clyw nawr, mae ganddi bryderon am fethu gwisgo un yn y dyfodol petai angen iddi.
"Hoffwn i hefyd gael rhywbeth i gymryd lle’r rhan o fy nghlust yr wyf i wedi’i cholli er mwyn gallu gwisgo sbectol, yn enwedig wrth i mi fynd yn hŷn. Rwy’n gwisgo sbectol i ddarllen ac rwy’n eu gwisgo nhw fwyfwy ar gyfer gwneud pethau eraill fel mynd i fwytai a choginio. Byddai gallu rhoi sbectol amdanaf a’u bod ddim yn llithro oddi arnaf yn gwneud gwahaniaeth i mi yn y pen draw."
Roedd Tina yn arfer torheulo llawer ond nawr mae hi’n ofalus iawn ynglŷn â faint o amser mae hi’n treulio yn yr haul, ac mae hi’n monitro ei chroen ar gyfer unrhyw newidiadau neu fannau du.
"Os yw fy stori i’n helpu pobl i fod yn ymwybodol o sut maen nhw’n mynd allan yn yr haul yna rwy’n hapus i sôn amdani."