Llun o'r Dr. Rhiannon Evans

Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd: Ymchwilydd yn derbyn Cymrodoriaeth i ymchwilio i ymyriadau rhyngwladol

7 Medi

Rhybudd: Mae'r stori yma yn cynnwys gwybodaeth am hunanladdiad.

 

 

 

I nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi 2023, mae Dr Rhiannon Evans yn esbonio sut y bydd derbyn Cymrodoriaeth Churchill o fri yn helpu i hyrwyddo ei hymchwil yn y maes hollbwysig hwn.

Mae Dr Evans yn Ddarllenydd yn y Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd â’i sail yn y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd.  

Fel rhan o’i hymchwil ôl-ddoethurol, wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, bu Dr Evans yn cynnal adolygiad systematig a ddaeth i’r casgliad bod pobl ifanc mewn gofal ryw bedair gwaith yn fwy tebygol o geisio lladd eu hunain.

Bydd gwobr Dr Evans, gyda chefnogaeth gan yr elusen Samariaid, yn ei galluogi i dreulio amser yn Colorado, UDA a Seoul a Busan yn Ne Corea, i archwilio’r gwaith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

Mae cyfraddau hunanladdiad yn amrywio’n eang rhwng gwledydd ac mae nifer o ffactorau’n gallu dylanwadu ar hyn. Yn ôl amcangyfrif Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), mae cyfraddau hunanladdiad De Corea a’r Unol Daleithiau yn sylweddol uwch na chyfraddau’r DU, gyda 21.2 a 14.5 o farwolaethau fesul 100,000 o bobl o'i gymharu â 6.9.

Meddai Dr Evans, “Bydd y Gymrodoriaeth hon yn caniatáu i mi adeiladu ar fy ymchwil flaenorol, a ddaeth i’r casgliad bod yna wir ddiffyg darpariaeth a chefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer pobl ifanc â hanes o ofal, boed hynny’n ofal maeth, yn ofal preswyl neu’n ofal gan berthynas.

“Mi fydda’ i’n archwilio dulliau arloesol o weithredu mewn gwledydd eraill i weld sut y gallen ni eu haddasu i’w defnyddio yng Nghymru. De Corea sydd â’r cyfraddau hunanladdiad uchaf o holl wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), yn ogystal â chyfradd gymharol uchel o farwolaethau trwy hunanladdiad ymhlith menywod. Hefyd, mae’n debyg bod yna ymateb diwylliannol penodol iawn i hunanladdiad, yn enwedig ymhlith enwogion, a sut y mae’n effeithio ac yn llywio llesiant pobl ifanc.

“Mae atal hunanladdiad yn flaenoriaeth sylweddol ym maes iechyd cyhoeddus, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Mae angen i ni ddeall yn well sut y gellir ei atal a sut i gefnogi pobl ifanc orau. Dwi’n gobeithio y galla’ i, trwy fy Nghymrodoriaeth Churchill, ddeall mwy am yr hyn sy’n gweithio i atal hunanladdiad a sut y gall hyn helpu pobl ifanc, yn enwedig y rheini sydd wedi bod mewn gofal.”

Elusen yn y DU a sefydlwyd er anrhydedd i Syr Winston Churchill ydy Cymrodoriaeth Churchill. Bob blwyddyn, mae’n darparu dyfarniadau i unigolion o bob cefndir sy’n gweithio ar draws meysydd, gan eu galluogi i ddysgu o arfer gorau ledled y byd er mwyn datblygu dulliau newydd o fynd i’r afael â heriau amrywiol.