Professor Alex Tonks

Cyllid i gefnogi’r “genhedlaeth nesaf” o wyddonwyr sy’n mynd i’r afael ag un o ffurfiau mwyaf cyffredin y DU o lewcemia

21 Ebrill

Mae cyllid oddi wrth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser y gwaed.  

Canser y gwaed ydy’r canser mwyaf cyffredin ond pedwar yn y DU, ond mae’r amrywiadau niferus wedi’i wneud yn hanesyddol anodd i’w drin. Mae yna fwy na 100 o wahanol fathau o Lewcemia Myeloid Acíwt (AML), pob un wedi’i achosi gan fwtadiad gwahanol.  

Mae’r Athro Alex Tonks, o’r Is-adran Canser a Geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn arwain ymchwil i driniaeth “fanwl” ar gyfer AML.  

Mae’r astudiaeth yn canolbwyntio ar brotein o’r enw NFIC a oedd, i bob golwg, yn sylweddol uwch mewn celloedd canser y gwaed nag mewn celloedd di-ganser. Meddai’r Athro Tonks:

Does neb yn gwybod ar hyn o bryd beth y mae’r protein hwn yn ei wneud mewn celloedd canser y gwaed, felly y ni fyddai’r rhai cyntaf i ddeall rôl NFIC mewn sut y mae AML yn datblygu. Unwaith y byddwn ni’n deall hynny, byddwn ni’n gallu creu triniaethau i fynd i’r afael ag ef.” 

Mae’r math hwn o driniaeth eisoes wedi llwyddo i drin math arall o ganser y gwaed, sef Lewcemia Myelosytic Cronig (CML), gan arwain at welliant sylweddol mewn cyfraddau goroesi.

Aeth y gyfradd oroesi ar gyfer cleifion â CML o ryw 10% ar ôl pum mlynedd i fwy na 90%. Gallu cynyddu’r gyfradd oroesi i’r lefel honno ac uwch; dyna’r safon aur rydyn ni eisiau ei chyflawni ar gyfer pob canser arall y gwaed." 

Mae’r cyllid, y mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei reoli, wedi galluogi’r Athro Tonks i gefnogi myfyriwr PhD, Owen Hughes. Meddai’r Athro Tonks: 

Dwi’n frwd dros gefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac addysgu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a fydd yn mynd ymhellach â’r ymchwil hon ac yn cynhyrchu’r triniaethau hynny ar gyfer y cleifion hynny.”  

Meddai Owen Hughes:

Roedd fy astudiaethau israddedig wedi rhoi dealltwriaeth eang dda o ganser i mi, ond roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau ei astudio’n fanylach. Cefais fy nenu at yr astudiaeth benodol hon i effaith NFIC mewn AML gan fy mod i llawn cyffro ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai arwain at ddatblygu therapïau newydd wedi’u targedu, gan wella deilliannau i gleifion. 

“Dwi’n teimlo bod y rheini o’m hamgylch yn yr adran haematoleg yn fy nghefnogi’n dda iawn. Dwi wedi dysgu cryn dipyn mewn ychydig iawn o amser a dwi’n awyddus i barhau i ddysgu.  

“Dwi’n hynod ddiolchgar i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am ariannu’r prosiect. Heb eu cefnogaeth nhw ni fyddwn i wedi gallu dechrau ar y siwrnai hon a symud ymlaen trwy gyfnodau cynnar gyrfa ym maes ymchwil.”