Barbara Moore

Sut i Gymru roi cyfle hanfodol i bobl gyffredin ddweud eu dweud ym maes ymchwil

4 Ebrill

Pan ddechreuodd Barbara Moore ei gyfra nyrsio yn y 1970au, doedd fawr ddim sylw i ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn ei llawlyfr hyfforddi. Ac er y byddai meddygon a nyrsys yn gofyn i gleifion ac aelodau’r cyhoedd am eu barn ar astudiaethau ymchwil, nid oedd yn agos at beth rydyn ni’n gyfarwydd ag ef heddiw.

Ers lansio’r GIG yng Nghymru ym 1948, mae’r gwaith hwn bob amser wedi bod gyda ni ar ryw ffurf neu’i gilydd, yn aml dan y teitl cynnwys cleifion a’r cyhoedd; fe ddechreuodd gyda chynghorwyr lleol yn eistedd ar fyrddau awdurdodau iechyd ac yna symudodd pethau ymlaen at ffurfio Cynghorau Iechyd Cymuned.

Hyd ddiwedd y 1990au, nid oedd yn ymrwymiad gorfodol, craidd y GIG i sicrhau bod cleifion a’r cyhoedd yn cael dweud eu dweud ynglŷn â’u triniaeth nac hefyd ynglŷn â pholisïau gofal iechyd.

Wrth i ni drafod beth fyddai ein hanes heb ymchwil, buom yn siarad gyda Barbara ynghylch y newidiadau y mae hi wedi eu gweld - yn symud o ofalu am gleifion ar y ward i ddod yn hyrwyddwr dros roi llais i’r cyhoedd mewn ymchwil.

 ‘Dydw i ddim wedi edrych yn ôl’

Cyn iddi ymddeol yn 2021, Barbara oedd  uwch reolwr cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sef rôl yr oedd wedi bod yn ei gwneud ers 2015.

“Mi ddechreuais i nyrsio yn y 70au ac alla’ i ddim dweud bod ymchwil yn rhywbeth roedden ni’n canolbwyntio arno o gwbl yn ystod fy hyfforddiant,” meddai Barbara.

“Wedi dweud hynny, diben nyrsio’n bendant oedd gofalu am bobl a gwneud y pethau allen nhw ddim eu gwneud eu hunain.

“Tasgau oedd y canolbwynt, ar y cyfan, a dydw i ddim yn gallu cofio unrhyw un yn dweud wrtha’ i am sail tystiolaeth, ond dwi’n cofio’r triniaethau roedden ni’n eu rhoi i bobl a, dros y blynyddoedd, does dim amheuaeth i mi weld y triniaethau hynny’n gwella.”

Roedd Barbara’n gweithio ar y wardiau ac yn yr adran cleifion allanol pan ddaeth hi’n ymwybodol “bod yna bobl o’r enw nyrsys ymchwil, ac roedd y pethau roedden nhw’n eu gwneud o ddiddordeb mawr i mi.”

“Daeth yna gyfle i mi ymgeisio am swydd, a gan fod llawer o weithgareddau ymchwil, i bob golwg, yn digwydd mewn adrannau cleifion allanol, gwnaeth y staff yn yr adran honno f’annog i fynd amdani, a dydw i heb edrych yn ôl ers hynny, am wn i,” meddai Barbara.

‘Naïf’ ynglŷn â chynnwys y cyhoedd

Ym 1999, daeth Barbara yn nyrs ymchwil yng Nghanolfan Ganser Felindre lle roedd ei rôl yn galw am esbonio triniaeth safonol i gleifion yn ogystal â gwneud yn siŵr eu bod nhw’n deall beth oedd pwrpas yr astudiaeth.

“Mae’n rhaid i mi ddweud, bryd hynny cymryd rhan oedd yn bwysig i mi,” meddai Barbara, “ac roeddwn i braidd yn naïf ynglŷn â sut y gallai’r cyhoedd wneud cyfraniad tuag at ddatblygu rhai o’r astudiaethau hynny roeddwn i’n siarad â chleifion amdanyn nhw, yn enwedig o ran y ffordd o egluro eu pwysigrwydd.

“Un o’r meysydd y mae’r cyhoedd yn cyfrannu’n fawr ato ydy’r wybodaeth sy’n cael ei hysgrifennu ar gyfer cleifion am astudiaethau penodol, a dwi wedi gweld hynny’n newid yn fawr ers i mi ddechrau fy ngyrfa. Dwi’n siŵr mai’r prif reswm am hyn ydy bod y cyhoedd wedi adolygu’r wybodaeth honno ac wedi helpu’r ymchwilwyr i roi pethau mewn iaith y mae pobl yn ei deall.”

Yn ystod ei gyrfa, bu Barbara’n gweithio i Ymchwil Canser y DU, lle bu’n recriwtio cleifion i dreialon ond lle bu hefyd yn cefnogi cleifion i lobïo’r senedd ac yn gweithio gyda’r cyfryngau i sicrhau bod llais cleifion yn cael sylw.

Ymhen amser, daeth Barbara i weithio’n agos gyda’r tîm a oedd yn cynnwys aelodau’r cyhoedd mewn ymchwil.

“Mae hyn yn golygu mwy nag aelodau’r cyhoedd yn cymryd rhan yn yr astudiaethau ymchwil eu hunain; mae’n golygu aelodau’r cyhoedd yn gweithio ochr yn ochr â’r ymchwilwyr i ddatblygu cysyniad ymchwil a mynd y tu hwnt i hynny – y siwrnai ymchwil gyfan.

“Diben cynnwys y cyhoedd, yn bendant, ydy sicrhau sylw i anghenion a phryderon y bobl y bydd ymchwil yn effeithio arnyn nhw, a’r bobl y bydd eu bywydau a fydd yn gwella yn ei sgil.

“Dyna sut y datblygodd fy ngyrfa i gynnwys rheoli, hyrwyddo a chefnogi aelodau’r cyhoedd i helpu gydag ymchwil o fewn cymuned Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.”

Ers ein lansio ar 14 Mai 2015, rydyn ni wedi bod yn hyrwyddo diwylliant lle mae pob ymchwil ‘gyda’r gyhoedd, er budd y cyhoedd’.

Mae ein Tîm Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd ymroddedig yn cefnogi ac yn cyfateb ymchwilwyr ac aelodau o’r cyhoedd fel eu bod nhw’n gallu cydweithio ar astudiaethau.

Gosod y safonau

Gall y cyhoedd weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr ym mhob cam o’r broses, boed yn helpu i benderfynu pa astudiaethau ddylai gael eu hariannu, neu’n gwneud yn siŵr bod y wybodaeth a roddir i gleifion yn hawdd i’w darllen a’i deall.

“Dwi’n meddwl mai un o’r newidiadau mwyaf ydy bod gan y rheini sy’n ariannu ymchwil ddisgwyliadau,” ychwanegodd Barbara. “Pan fydd ceisiadau am gyllid yn cael eu cyflwyno iddyn nhw, maen nhw’n disgwyl gweld bod y cyhoedd wedi cyfrannu tuag at ddatblygu’r cais hwnnw am gyllid achefyd  wedi cyfrannu tuag at y cynlluniau ar gyfer yr astudiaeth.

“Yn ddelfrydol, ni ddylai unrhyw ymchwil gael ei ariannu heb fewnbwn gan y cyhoedd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.”

Os y buasech yn hoffi helpu gydag ymchwil, gallwch ymuno â’n cymuned gyhoeddus a derbyn - drwy e-bost - ein cylchlythyr wythnosol sydd yn rhoi manylion am gyfleoedd ymchwil.

I gael y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.