“Rwy’n cymryd rhan er mwyn fy mab” - treial gwrthfeirysol COVID-19 yn recriwtio 1000fed cyfranogwr yng Nghymru
5 Mawrth
Mae astudiaeth gwrthfeirysol COVID-19 wedi recriwtio ei 1000fed cyfranogwr yng Nghymru, gan gyfrannu at dros 12,000 o gyfranogwyr ledled y DU.
Credir mai'r astudiaeth PANORAMIC (treial platfform-addasol o gyffuriau gwrthfeirysol newydd ar gyfer trin COVID-19 yn gynnar yn y gymuned) yw'r astudiaeth fwyaf yn y byd o driniaethau gwrthfeirysol y gellir eu cymryd gartref ar gyfer COVID-19 ysgafn.
Mae’r treial yn cael ei arwain gan Brifysgol Rhydychen a’i ddarparu yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Mae’r astudiaeth yn agored i rai dros 50 oed, neu bobl 18-49 oed sydd â chyflwr iechyd sylfaenol gyda phrawf COVID-19 positif (PCR neu LFT) a symptomau ers llai na 5 diwrnod.
Malcolm Jones, 55 oed o Aberfan, oedd y 1000fed cyfranogwr i gael mynediad i'r astudiaeth yng Nghymru.
Mae Malcom yn byw gyda'i wraig a'i ddau fab ac yn gweithio ym maes gweithgynhyrchu.
“Roedd cymryd rhan yn hawdd iawn”
“Mae fy ngwraig yn fy ngwirfoddoli i ar gyfer pob math o bethau, felly nid oedd yn syndod pan anfonodd fanylion yr astudiaeth hon ataf. Gofynnais rai cwestiynau i'r tîm ymchwil ac roeddwn yn hapus gyda'r wybodaeth, felly penderfynais roi cynnig arni.
“Rwy’n dilyn y cyfarwyddiadau a roddwyd i mi i gyd gartref yn fy ystafell wely, mae’r cyfan wedi bod yn hawdd iawn. Rwy'n cymryd y tabledi gwrthfeirysol ac yn llenwi dyddiadur am sut rwy'n teimlo.”
“Rwy’n cymryd rhan er mwyn fy mab”
“Fy nghymhelliant i fod yn rhan o'r treial yw fy mab hynaf. Mae'n anabl ac yn agored iawn i niwed o COVID-19. Mae ganddo barlys yr ymennydd ac mae'n epileptig ac yn cymryd llawer o feddyginiaeth i'w gadw'n fyw.
“Rydyn ni i gyd wedi gorfod bod yn ofalus iawn wrth gymdeithasu a mynd allan. Mae wedi bod yn gyfnod llawn straen i fy nheulu.
“Rwy’n cymryd rhan yn y treial hwn er ei fwyn ef – gallai cyffuriau fel y rhain helpu i achub ei fywyd, a bywydau miliynau o bobl eraill.”
“Bydd y treial hwn yn achub bywydau”
“Er ein bod ni'n byw gyda'r feirws nawr, dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd rownd y gornel.
“Mae’n rhaid i ni barhau i ymchwilio ac arloesi neu dydyn ni ddim yn datblygu – mae union fel fy ngwaith i ym maes gweithgynhyrchu. Mae ymchwilwyr yn gwneud rhywbeth gwych - allwn ni ddim aros yn ein hunfan. Mae’n rhaid i ni ddal i symud ymlaen.”
Y driniaeth gyntaf i'w harchwilio trwy'r treial fydd molnupiravir (Lagevrio yw’r enw brand). Mae’r feddyginiaeth eisoes wedi’i chymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, a bydd yr astudiaeth hon yn darparu mwy o ddata ar sut mae cyffuriau gwrthfeirysol yn gweithio mewn poblogaeth sy'n bennaf wedi’i brechu, ac yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol.
Pam fod yr astudiaeth hon yn bwysig?
Dywedodd yr Athro Andrew Carson-Stevens, Prif Ymchwilydd Cymru ar gyfer yr Astudiaeth PANORAMIC ac Arweinydd Arbenigedd Gofal Sylfaenol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Fel gwlad fach, mae Cymru unwaith eto wedi rhagori ar y disgwyl gan gyfrannu dros 10% o'r holl gyfranogwyr i PANORAMIC - cyfraniad enfawr a phwysig gan bobl Cymru i helpu i fynd i'r afael â COVID-19. Diolch.
"Ni fyddai'r astudiaeth hon wedi bod mor llwyddiannus yng Nghymru heb y tîm o unigolion talentog o amrywiaeth o sefydliadau, sydd unwaith eto wedi mynd y tu hwnt i gefnogi a chyflwyno'r astudiaeth bwysig hon."
Dywedodd yr Athro Kerry Hood, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn cynrychioli Cymru ar dîm treialon Rhydychen: “Mae dyluniad 'o bell' yr astudiaeth yn golygu y gall pobl gymryd rhan o unrhyw le yng Nghymru, heb hyd yn oed adael y tŷ.
“Mae’r treial PANORAMIC yn rhoi cyfleoedd i’r rhai mwyaf agored i niwed gael mynediad at gyffuriau a thriniaethau arloesol ac rydym mor falch bod pobl Cymru wedi bod mor hael â’u hamser a’u hymdrech.”
Sut alla'i ganfod os ydw i’n gymwys i gymryd rhan?
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cydlynu recriwtio i’r astudiaeth yn genedlaethol yng Nghymru: “Er bod cyfyngiadau’n llacio, gyda bwriad i’r holl gyfyngiadau ddod i ben o ddiwedd y mis hwn, mae pobl yn dal i gael COVID-19 ac mae angen i ni fod un cam ar y blaen er mwyn rheoli a thrin y feirws.
"Mae'r treial hwn yn enghraifft arall o sut mae Cymru'n parhau i gyfrannu at astudiaethau'r DU a byd-eang i frechlynnau, atgyfnerthwyr a thriniaethau amrywiol - gan helpu i ddod o hyd i atebion i'r ffordd orau o fyw gyda'r feirws."
Ewch i wefan yr astudiaeth PANORAMIC i gofrestru a chanfod mwy.
Dysgwch fwy am y bobl y tu ôl i'r ymchwil a sut mae ymchwil Cymru wedi newid bywydau.
I gael y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.