Mae’r ‘cyffur gwyrthiol’ i drin canser yn dal i newid bywydau yng Nghymru
21 Ebrill
Mae derbyn diagnosis o ganser y fron yn newyddion difethol, ac i lawer o fenywod â’r math mwyaf ymosodol ohono dim ond 50 y cant oedd eu siawns o’i oroesi yn y gorffennol.
Ond yn 2002 fe newidiodd hyn i gyd.
Fe recriwtiodd nyrsys ymchwil filoedd o gleifion i dreial clinigol rhyngwladol, i weld a allai cyffur newydd helpu’r cleifion hynny i fyw am hirach.
Treial HERA oedd enw’r astudiaeth, Herceptin oedd y cyffur ac roedd y canlyniadau’n syfrdanol.
Wrth i ni feddwl am lle y bydden ni heb ymchwil, rydyn ni’n ystyried arwyddocâd treial HERA ac yn edrych ar sut y paratôdd y ffordd i ddefnyddio Herceptin i drin amrywiaeth o ganserau, gan gynnig gobaith i gleifion ym mhob cwr o’r byd.
Bod yn rhan o’r treial
Nod treial HERA oedd helpu grŵp penodol o gleifion canser y fron, a oedd â chanserau’n cynhyrchu swm abnormal o brotein o’r enw HER2. Yr HER2 hwnnw, ar wyneb eu celloedd canseraidd, oedd yr allwedd i’r celloedd hynny rannu’n afreolus a thyfu’n diwmorau.
Sian Whelan oedd yr Uwch Nyrs Ymchwil, Ymchwil Canser y DU yn Ysbyty Singleton yn Abertawe. Mae hi’n cofio’r treial yn dechrau.
“Fel mae’n digwydd, roedd yr ymweliad cychwynnol â’r safle ar gyfer treial HERA ar fy niwrnod cyntaf un yn gweithio yn Singleton. Daeth y cwmni cyffuriau, Roche, a oedd yn cynnal yr astudiaeth, yno i sicrhau bod popeth yn barod.”
Yr adeg honno, nid oedd sgrinio HER2 yn digwydd fel mater o drefn felly gofynnwyd i gleifion gydsynio i samplau o’u meinweoedd gael eu hanfon i gyfleuster profi canolog yn yr Almaen.
“Mae’n rhywbeth rydyn ni’n ei gymryd yn ganiataol erbyn hyn,” meddai Siân, “ond bryd hynny doedd profion ddim yn digwydd fel mater o drefn. Er hynny, roedden ni’n gwybod os oedd cleifion yn HER2-cadarnhaol yna roedd eu clefyd yn fwy ymosodol o lawer – ond doedd ’na ddim triniaeth.”
Nod HERA oedd newid hyn, gan roi’r cyffur Herceptin ar brawf. Roedd hwn yn targedu’r derbynnydd protein HER2, yn glynu ato ac yn blocio’i effeithiau. Roedd yn astudiaeth fyd-eang, ac ysbytai Singleton a Felindre oedd y safleoedd yng Nghymru ar gyfer y treial lle gwelwyd cleifion yn derbyn Herceptin ar ôl eu llawdriniaeth a chemotherapi. Cafodd rhai cleifion radiotherapi hefyd, gan ddibynnu ar y math o lawdriniaeth ar y fron oedd ei hangen arnyn nhw.
Roedd gan y treial dair ‘cangen’ neu driniaeth bosibl: byddai’r cleifion naill ai’n derbyn y driniaeth safonol seren aur ar y pryd, sef llawdriniaeth a chemotherapi, a radiotherapi o bosibl; Herceptin am flwyddyn ar ôl triniaeth; neu fe fydden nhw’n derbyn Herceptin am ddwy flynedd. Er mwyn osgoi rhagfarn ddamweiniol neu effeithiau ‘plasebo’ roedd y treial ar ffurf hap-dreial wedi’i reoli, felly dyrannwyd cleifion ar hap i’r ‘canghennau’ triniaeth.
“Fe siaradon ni â chleifion am hyn,” esboniodd Siân, “ac wrth gwrs roedd yn galw am ymestyn eu hamser dan driniaeth, ond roedd y cleifion hynny’n ymwybodol y gallai fod o fudd iddyn nhw. Wrth gwrs, roedd hi hefyd yn bosibl na fyddai o unrhyw fudd iddyn nhw ond roedden nhw’n sylweddoli bod y ffaith eu bod nhw’n HER2-cadarnahol yn golygu bod eu clefyd yn un mwy ymosodol.”
Recriwtio’r cleifion
Fe gymerodd dros bum mil o gleifion ledled y byd ran yn yr astudiaeth, fu’n rhedeg am 10 mlynedd gydag archwiliadau dilynol mynych. Roedd yna gyfanswm o 14 o gleifion o Gymru, saith ohonyn nhw’n cymryd rhan ar safle Singleton.
Un o’r saith hynny oedd Kim Shears o Abertawe, ar ôl iddi gael diagnosis o ganser y fron HER2-cadarnhaol yn 45 mlwydd oed.
Cafodd Kim lawdriniaeth, a thriniaeth cemotherapi a radiotherapi ac mae’n cofio cael cynnig Herceptin fel rhan o dreial HERA.
“Ro’n i ’chydig yn amheus am gymryd rhan yn y treial i ddechrau,” meddai Kim, “ond dwi mor ddiolchgar mod i wedi gwneud. Ro’n i eisiau gwella a bod yn ffit ac ro’n i eisiau rhoi’r siawns gorau posibl i fi fy hun. Cefais i hefyd lawer o gefnogaeth ac anogaeth oddi wrth fy nheulu, fy ffrindiau a’m cydweithwyr, a oedd i gyd yn rhyfeddol wrth gynnal fy ysbryd a’m helpu i gadw’n bositif gydol fy siwrnai canser.
“Fe siaradodd Sian a’r tîm â fi ynglŷn â goblygiadau’r treial a sgil-effeithiau’r cyffur, ac mi wnes i ’chydig o’m hymchwil fy hun, ac mi benderfynais i fod yna fwy o fuddion, i mi, na risgiau.”
Roedd hi’n hysbys mai un o sgil-effeithiau posibl Herceptin oedd ei fod yn gallu effeithio ar y galon felly roedd cleifion yn yr astudiaeth yn cael profion rheolaidd i wneud yn siŵr nad oedden nhw’n adweithio’n ddifrifol.
Fel nyrs ymchwil, bu Siân yn cefnogi’r cleifion yn ystod pob cam o’r treial.
“Ac nid y nhw’n unig,” meddai Siân, “roeddech chi’n tueddu i gefnogi’u teuluoedd hefyd, gan y byddai’r gwŷr yn dod gyda nhw ac roedd rhai o’r cleifion hyn yn eithaf ifanc a’r dyddiau hynny fe fyddai eu plant yn dod hefyd.”
Cael y canlyniadau
18 mis yn unig i fewn i’r treial, daeth y set gyntaf o ganlyniadau ac roedden nhw’n dangos bod cleifion a oedd wedi bod ar Herceptin am flwyddyn yn cael budd mawr.
“Pan gyhoeddwyd canlyniadau cyntaf treial HERA, roedden nhw’n dangos gostyngiad o 46 y cant yn y risg y byddai’r clefyd yn dod yn ôl os oedd y cleifion wedi derbyn Herceptin,” meddai Dr Gianfilippo Bertelli, Pen Ymchwilydd treial HERA yn Singleton. “Roedd hi’n rhy gynnar bryd hynny i wybod yr effeithiau ar y risg o farw.”
“Oherwydd ein bod ni’n gwybod bod hyn o fudd i’r cleifion hyn, ni allen ni adael i’r rhai oedd heb gael y cyffur barhau â’r driniaeth safonol yn unig,” meddai Siân. “Felly gwnaethon ni ofyn iddyn nhw beth hoffen nhw ei wneud gan gynnwys p’un a hoffen nhw flwyddyn o Herceptin neu gael eu dynodi ar hap eto i dderbyn un neu ddwy flynedd o’r driniaeth.”
Gan nad oedd canlyniadau’r driniaeth dwy flynedd yn hysbys yr adeg honno, dewisodd pob un o gleifion Singleton, a oedd yn y gangen o’r astudiaeth oedd heb dderbyn y driniaeth, gael Herceptin am flwyddyn.
“Roedd hi’n eitha’ cyffrous,” ychwanegodd Siân. “Wrth gwrs, roedd y cleifion a oedd ar y gangen blwyddyn o’r astudiaeth yn hapus ynglŷn â’r ffaith eu bod arni ac roedd y cleifion oedd heb dderbyn y driniaeth, ac a gafodd ei chynnig wedyn, yn hapus eu bod nhw’n gallu cael y cyffur.”
“Roedd hi’n ffantastig pan ddaeth y canlyniadau interim i law, yn dangos bod Herceptin yn gweithio,” meddai Kim, a oedd ar y gangen blwyddyn o’r astudiaeth. “’Dych chi ddim yn sylweddoli’r effaith ar y pryd, achos ’dych chi fel petaech chi ar ryw reid ffair arswydus. Felly roedd hi ’chydig o flynyddoedd wedyn pan sylweddolais i mor lwcus oeddwn i.”
Heip Herceptin
Cyhoeddwyd y canlyniadau cychwynnol yn eang yn y cyfryngau a chyn bo hir roedd cleifion canser y fron yn gofyn i’w meddygon am Herceptin.
Fodd bynnag, er bod y dystiolaeth gynnar hon yn dangos ei fod yn gweithio, roedd dal yn destun treial clinigol felly nid oedd y cyffur wedi’i drwyddedu ac nid oedd meddygon yn gallu ei ragnodi.
Yn allweddol, mae’r mwyafrif o gleifion canser y fron yn HER2-negyddol, sy’n llai ymosodol ac yn haws i’w drin. “Felly ni fydd cael hwn o unrhyw fudd o gwbl i’r cleifion hynny,” meddai Siân. “Dim ond grŵp bach o gleifion HER2-cadarnhaol y bydd triniaeth Herceptin o fudd iddyn nhw.”
“Y broblem a gawson ni pan aeth y cyfan i’r papurau oedd nad oedd cleifion yn sylweddoli na fyddai hwn o bosibl o fudd iddyn nhw. Felly roedd pawb â chanser y fron eisiau’r cyffur hwn, ond mewn gwirionedd doedd y rhan fwyaf o’r cleifion ddim ei angen ac roedden nhw’n well eu byd heb fod ei angen.”
Ond hyd yn oed i’r rheini y byddai o bosibl yn gweithio iddyn nhw, nid oedd y cyffur ar gael yn syth. “Efallai’ch bod chi’n cofio,” meddai Siân, “roedd gennon ni gleifion yn gwersylla y tu allan i’r Cynulliad yng Nghaerdydd eisiau’r cyffur oherwydd eu bod nhw’n gwybod eu bod nhw’n HER2-cadarnhaol ond, gan nad oedden nhw’n rhan o’r astudiaeth, doedden nhw ddim yn gallu’i gael.”
“Yn sicr, roedd gwrychyn y cyhoedd wedi’i godi ynglŷn â’r cyffur ond does dim posibl rhuthro’r pethau yma. Allwch chi ddim rhoi cyffuriau i bobl os dydy’r cyffuriau hynny heb fod trwy’r broses i wneud yn siŵr eu bod nhw’n effeithiol ac yn ddiogel.
Effaith treial HERA
Yn 2006, argymhellodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) fod Herceptin ar gael ar y GIG i bob menyw â chanser y fron HER2-cadarnhaol, gan drawsnewid cyfraddau goroesi. Heddiw, mae mwy nag 8 o bob 10 claf yn goroesi am o leiaf 10 mlynedd ar ôl cael diagnosis.
Paratôdd astudiaeth HERA’r ffordd i astudiaethau a arweiniodd at ddefnyddio Herceptin mewn ffurfiau eraill ar y clefyd, gan gynnwys canser yr oesoffagws.
Mae treialon eraill wedi gwella’r ffordd o roi Herceptin.
“Yr arfer safonol presennol ydy pigiad bach o dan y croen yn hytrach na rhoi’r cyffur yn fewnwythiennol,” esboniodd Siân. “Mae’n ddull cyflymach o lawer, mae’n achosi llai o ofid a does dim angen mynd i’r ysbyty. Datblygodd hyn o dreial dilynol a wnaed yma a dyna lle mae triniaeth Herceptin arni ar hyn o bryd yn y GIG.”
Y menywod a aeth o’n blaenau
Mae pob claf a gymerodd ran yn nhreial Singleton wedi bod yn byw yn rhydd o’r clefyd am fwy na 15 mlynedd.
“Mae’n eitha’ syfrdanol yn dydy?” meddai Siân. “Dwi’n hynod falch mod i ’di bod yn rhan o’r treial, yn arbennig gan fy mod i yno o’r cychwyn cyntaf. Mae pob triniaeth sydd gennon ni nawr oherwydd y bobl sydd wedi mynd o’n blaenau ac wedi cymryd rhan mewn treialon clinigol.
“Fel nyrsys rydyn ni yma i wneud gwahaniaeth i bobl ac i wneud pethau’n well. Dyma dreial sydd wedi newid arfer ac sydd wedi trawsnewid beth y mae diagnosis o HER2-cadarnhaol yn ei olygu i unrhyw fenyw a’i hanwyliaid.”
Yn dilyn holl gamau treial HERA, blwyddyn o Herceptin yw’r arfer safonol o hyd ar gyfer cleifion canser y fron HER2-cadarnhaol yng nghyfnod cynnar y clefyd, ar ôl llawdriniaeth, cemotherapi ac, mewn rhai achosion, radiotherapi, gan ddibynnu ar y math o lawdriniaeth sydd ei hangen.
Mae Kim nawr yn 65 oed, ac mae ganddi ddwy ferch ac wyres.
“Dwi’n teimlo’i bod hi wedi bod yn fraint cael y cyffur – y cyffur gwyrthiol,” meddai Kim.
“Dwi’n credu ei fod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i hyd fy mywyd. Dwi jest yn falch mod i ’di cytuno i gymryd rhan! Dwi hefyd yn teimlo’n falch iawn fy mod i, trwy gymryd rhan yn y treial, wedi gallu helpu pobl eraill hefyd.”
I gael y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.