Dr Naledi Formosa yn gweithio ar fodel yr ysgyfaint 3D ar gyfer ymchwil canser y fron

Gallai model ysgyfaint 3D arloesol fod yn allweddol o ran lledaeniad canser y fron

24 Hydref

Gallai model ysgyfaint tri dimensiwn (3D) arloesol fod yn allweddol i sut mae canser y fron yn lledaenu o fewn y corff dynol, diolch i astudiaeth a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

Mae Dr Naledi Formosa, Cymrawd Ymchwil Canser a Geneteg Canser ym Mhrifysgol Caerdydd, yn creu model 3D yr ysgyfaint i astudio lledaeniad canser y fron, a elwir hefyd yn fetastasis, a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ei ledaeniad.

Yn ôl Cancer Research UK, canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin yn y DU gyda thua 550,000 o achosion newydd bob blwyddyn.

Dywedodd Dr Formosa, er bod rhai cleifion canser yn cael diagnosis yn ddiweddarach, y gallai cyffuriau gael eu defnyddio i'w drin os oes diagnosis cynnar.  Mae llawer o'r ymchwil bresennol yn canolbwyntio ar gywiro'r broblem sylfaenol cyn i ganserau ledaenu, ond dywedodd Dr Formosa ei bod am ddarganfod beth sy'n achosi i ganser y fron ledaenu ac archwilio a oes unrhyw therapïau newydd ar gael i atal y lledaeniad. 

Meddai: "Bydd yn rhaid i lawer o gleifion canser y fron, yn enwedig y rhai yng ngham tri neu bedwar, atal eu triniaethau pan fydd y canser yn rhy ddifrifol neu wedi mynd i gam pellach.  Efallai mai dim ond ychydig o opsiynau triniaeth effeithiol sydd gan bobl â chanser datblygedig y fron.

"Rydym yn ceisio ail-greu model ysgyfaint gweithredol llawn ac archwilio'r broses o ganser y fron yn lledaenu."

Bydd model Dr Formosa yn defnyddio celloedd dynol byw ac yn darparu cynrychiolaeth fwy cywir o gorff dynol i fonitro rhyngweithiadau cymhleth celloedd yr ysgyfaint. 

"Bydd model yr ysgyfaint yn efelychu'r hyn sy'n digwydd yn y corff pan fydd canser y fron yn lledaenu i feinweoedd iach yr ysgyfaint, fel y gallaf archwilio sut mae canser y fron yn teithio i rannau eraill o'r corff a'r ffactorau sy'n arwain at y lledaeniad.

Os gallwn ni fodelu canser y fron sydd wedi'i ledaenu i amgylchedd yr ysgyfaint, gobeithiwn y gallwn nodi a oes therapi neu gyffuriau newydd i atal canser y fron rhag lledaenu, neu hyd yn oed ei wrthdroi," ychwanegodd.

Cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol i ddysgu mwy am ymchwil achub bywyd sy'n digwydd yng Nghymru.