Pedwar plentyn bach yn eistedd ar lawr ac yn clapio.

Arolwg newydd Ganwyd yng Nghymru i rieni plant 18 mis i 2 oed a hanner

5 Tachwedd

Ymchwilwyr yng Nghanolfan Genedlaethol Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth, a ariennir trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymruhave, wedi lansio mae’r astudiaeth Ganwyd yng Nghymru arolwg newydd ar gyfer rhieni â phlant rhwng 18 mis a dwyflwydd a hanner oed. Mae’r holiadur newydd yn adeiladu ar lwyddiant arolwg cyntaf Ganwyd yng Nghymru a roddodd sylw i rieni babanod newydd, neu bobl a oedd yn disgwyl babi.

Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau am y rhieni ac am iechyd a lles eu plant. Mae cwestiynau eraill yn canolbwyntio ar ethnigrwydd, statws cyflogaeth, a gwasanaethau yn eu hardal leol. Ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i lenwi’r holiadur.

Ychwanegodd yr Athro Sinead Brophy, Cyfarwyddwr  Canolfan Iechyd y Boblogaeth, rhannodd ei meddyliau am yr arolwg newydd:

Mae blynyddoedd cyntaf bywyd plentyn yn hanfodol bwysig wrth adeiladu’r sylfaen ar gyfer twf, iechyd, lles, sgiliau cymdeithasol, a chyrhaeddiad addysgol. Bydd yr arolwg newydd hwn yn ychwanegu ymhellach at ein dealltwriaeth o’r hyn a all ddylanwadu ar newid mewn twf a datblygiad plentyn. Bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn adeiladu ar ein sylfaen dystiolaeth gynyddol a fydd yn llywio polisi ac ymarfer er mwyn helpu i wella bywydau teuluoedd sy’n cael eu magu yng Nghymru, sydd ag effeithiau hirdymor ar ganlyniadau’r dyfodol.

Ni ddylai'r holiadur gymryd mwy na 15 munud i'w gwblhau.