Bachgen yn edrych ar y ffôn

“Pecyn cymorth” camfanteisio troseddol ar blant yn dod â gwasanaethau at ei gilydd i ddiogelu plant yng Nghymru

8 Chwefror

Ymchwil a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn helpu gwasanaethau i ddiogelu plant rhag model o gamfanteisio troseddol sy’n esblygu byth a hefyd – yn ogystal â rhoi llais i bobl ifanc a “fyddai fel rheol heb un”. 

Mae’r “pecyn cymorth” wedi’i gydgynhyrchu gan Dr Nina Maxwell, Cyd-Arweinydd Arbenigol Gofal Cymdeithasol yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ochr yn ochr â phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol o hyd a lled Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth gyfoes, sy’n benodol i sectorau, i helpu i nodi’r bobl ifanc hynny sydd mewn risg o Gamfanteisio Troseddol ar Blant, a strategaethau ymarferol i’w helpu.  

Mae’r pecyn cymorth wedi’i seilio ar ymchwil Dr Maxwell gyda rhieni, ymarferwyr a’r bobl ifanc eu hunain i ddeall realiti Camfanteisio Troseddol ar Blant yng Nghymru – sydd, meddai hi, yn rhywbeth a “allai ddigwydd i unrhyw blentyn”. 

Meddai Dr Maxwell seicolegydd ac arweinydd ymchwil Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE):

Mae yna neges yn y cyfryngau mai un croestoriad o’r gymdeithas yn bennaf y mae camfanteisio troseddol yn effeithio arnyn nhw, ond o’r ymchwil a’r bobl rydw i wedi siarad â nhw, y neges ydy y gallai ddigwydd i unrhyw blentyn.  

Rydw i wedi siarad â phobl ifanc o bob cefndir mewn bywyd y mae rhywun yn eu targedu a’u paratoi i bwrpas penodol, ac â rhieni a oedd erioed wedi meddwl y byddai’n digwydd i’w plant nhw.  

Yn aml, mae’r bobl hyn yn targedu pobl ifanc sydd ag anghenion sydd heb eu diwallu. Gallai hyn fod oherwydd eu bod wedi cael profiad o fod mewn gofal neu yn ei chael hi’n anodd ymdopi â phontio o ysgol gynradd i ysgol uwchradd neu o ysgol uwchradd i’r coleg. Maen nhw’n edrych am ffrindiau newydd ac yn ei chael hi’n anodd ffitio i mewn, a dyna beth y mae’r camfanteiswyr yn edrych amdano. Maen nhw’n glyfar iawn; maen nhw’n dod yn gyfaill i’r plant hyn ac yn eu defnyddio.  

Mae camfanteisio’n wirioneddol effeithio ar y teulu cyfan ac mae fy ymchwil yn cofnodi eu lleisiau a’u profiadau ac yna’n edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud amdano.” 

Trwy siarad yn uniongyrchol â’r rheini roedd hyn wedi effeithio arnyn nhw, mae ymchwil Dr Maxwell yn paentio llun mwy manwl gywir o Gamfanteisio Troseddol ar Blant yng Nghymru a sut y mae wedi newid dros amser. 

Yn y dyddiau cynnar, roedd yn bennaf ar fodel Llinellau Cyffuriau: pobl ifanc o ddinasoedd yn cael eu hanfon i mewn i ardaloedd eraill, am resymau amrywiol, gan gynnwys y farchnad gyffuriau. Byddai hyn yn aml yn golygu dod â phobl ifanc o Lundain, Manceinion a Lerpwl i mewn i Gymru.  

Mae fy ymchwil wedi edrych ar sut olwg sydd ar Gamfanteisio Troseddol ar Blant yn benodol yng Nghymru. Yma, mae gennym ni grwpiau o fewn Cymru sy’n efelychu’r model hwnnw, ac yn anfon pobl ifanc ledled Cymru. Llinellau niwlog ydy’r enw ar hyn. Mae gennym ni hefyd fwy o ddelio cyffuriau traddodiadol sy’n gysylltiedig â theuluoedd lleol a delwyr lleol.” 

Fodd bynnag, mae’n gallu bod yn anodd gwybod yn union pa mor gyffredin ydy’r broblem yng Nghymru. Aeth Dr Maxwell ymlaen i ddweud:

Mae Camfanteisio Troseddol ar Blant, yn naturiol, yn fater cudd iawn. Gallwn ni weld bod niferoedd y bobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol wedi cynyddu, ond mae’n bosibl mai oherwydd ymwybyddiaeth gynyddol o’r broblem ydy hyn yn hytrach na bod Camfanteisio Troseddol ar Blant ei hun yn cynyddu. 

Yr hyn rydyn ni wedi sylwi arno ydy bod y model Camfanteisio Troseddol ar Blant yn esblygu oherwydd ei fod yn broffidiol iawn. Gan fod gwasanaethau wedi dod yn well am nodi’r bobl ifanc hynny sy’n cael eu symud i mewn i ardaloedd mwy gwledig ac arfordirol, dechreuodd y rheini yn uwch i fyny’r rhwydwaith i gamfanteisio ar bobl ifanc lleol yn lle. Nawr rydyn ni’n gweld camfanteisio troseddol ar fwy o ferched, y mae gofyn iddyn nhw ddal arfau neu arian, neu ddelio cyffuriau, oherwydd bod yr heddlu yn ymwybodol i gadw llygad yn agored am fechgyn.” 

Mae gwybodaeth berthnasol, gyfoes yn allweddol i fynd i’r afael â’r broblem hon, a dyna pam fod adnoddau Dr Maxwell mor effeithiol. Mae’r pecyn cymorth i ymarferwyr yn cynnwys diffiniadau o wahanol fathau o Gamfanteisio Troseddol ar Blant, y ffyrdd y mae’r model yn esblygu ar hyn o bryd, cyfarwyddyd a chanllawiau sy’n benodol i sectorau ar gyfer gweithio amlasiantaeth. Mae yna hefyd wefan ar gyfer rhieni, ac mae dwy ffilm y mae pobl ifanc yn eu hysgrifennu a’u ffilmio ar gyfer pobl ifanc yn cael eu cynhyrchu, i ddangos iddyn nhw beth i gadw llygad yn agored amdano, a lle i gael rhagor o gefnogaeth.  

Nesaf, bydd Dr Maxwell yn gweithio gyda dau Awdurdod Lleol – y naill yng ngogledd Cymru a’r llall yn ne Cymru – i fynd ati i edrych yn drylwyr ar siwrneion penodol pobl ifanc i gamfanteisio troseddol. Gan weithio gydag unigolion am hyd at ddwy flynedd, mae Dr Maxwell yn gobeithio adeiladu ar ei gwaith hyd yma a datblygu “gwybodaeth drylwyr ynglŷn â’r arwyddion rhybudd a’r hyn y gallen ni fod yn ei wneud yn well, i roi’r gwasanaeth iawn i bobl ifanc ar yr adeg iawn.”