Doctors and nurses from 1948

Treftadaeth gyfoethog o ymchwil ragorol yng Nghymru

21 Mawrth

Wrth i ni feddwl am ble y byddem heb ymchwil, rydym yn myfyrio ar astudiaeth arloesol o glefyd ysgyfaint glowyr Cymru o 1948 a newidiodd wyneb iechyd y cyhoedd am byth.

Clefyd y llwch

Pan sefydlwyd y GIG yn ôl ym 1948, roedd mwy na 700,000 o ddynion yn gweithio sifftiau llethol, budr a pheryglus ym mhyllau glo Prydain. Roedd mwy na 22,000 yn dioddef o glefyd yr ysgyfaint o’r enw niwmoconiosis, neu ‘glefyd y llwch’, ac roedd 85% o’r rheiny’n byw ac yn gweithio yn Ne Cymru.

Dyma oedd y clefyd yr aeth Archie Cochrane, meddyg yn Ysbyty Llandochau ym Mhenarth, i’r afael ag ef mewn astudiaeth uchelgeisiol o gymunedau mwyngloddio cyfan yn nyffrynnoedd Rhondda Fach ac Aberdâr.

Gwnaed profion pelydr-x o’r frest ac arolygon iechyd manwl ar raddfa heb ei thebyg o’r blaen, i weld a oedd cyfuniad o glefyd y llwch a’r diciâu yn achosi ffurf lesteiriol iawn ar glefyd yr ysgyfaint, sef ffibrosis enfawr cynyddol.

Roedd y darganfyddiadau’n fwy o lawer na hyn; cysylltwyd llwch glo ag amrywiaeth o anableddau ac iechyd gwael ymhlith y cymunedau hyn.

Fe gytunodd 95% syfrdanol o’r gymuned – rhyw 25,000 o bobl – i gymryd rhan, diolch i waith hynod drefnus a dwys tîm o feddygon, nyrsys a glowyr anabl yn y maes, yn defnyddio dulliau arloesol (gan gynnwys cynnig cludo pobl i glinigau pelydr-x yng nghar Jaguar Archie!).

Oherwydd nifer rhyfeddol y rhai a gymerodd ran, ac oherwydd cyfoeth y data manwl a gasglwyd, daeth yn amlwg bod gweithredu fel hyn yn ddichonol, a lansiwyd oes newydd o ymchwil iechyd cyhoeddus, gyda Cochrane yn ennill enw fel ‘tad meddygaeth wedi’i seilio ar dystiolaeth’. 

Dynion rhyfeddol Caerffili

Tua diwedd y 1960au, roedd ymchwil Cochrane i’r posibilrwydd y gallai asbrin atal clefyd y galon yn ysbrydoliaeth i’w gydweithiwr, yr Athro Peter Elwood, a aeth ati i astudio sut mae arferion ffordd o fyw yn effeithio ar glefyd cronig ac iechyd.

Gan olrhain arferion ffordd o fyw 2,500 o ddynion canol oed o Gaerffili yn Ne Cymru ers 1979, daeth astudiaeth Cohort Caerffili’n un o’r astudiaethau iechyd pwysicaf erioed i’w chynnal, ac mae’n dal i fod ymhlith y pwysicaf. Mae edrych ar sut mae ein hamgylchedd yn dylanwadu ar risg o glefydau cronig, fel clefyd y galon, diabetes a gordewdra, yn dibynnu’n llwyr ar ymroddiad y dynion sy’n cymryd rhan. Mae’r 2,500 o’r dynion hyn o Gaerffili wedi rhoi o’u hamser a’u data’n gyson am 19 mlynedd, gan gynnwys profion gwaed am 5 o’r gloch y bore cyn eu pryd cyntaf o fwyd yn y dydd, i’n helpu ni i ddeall iechyd yn well.

Llwyddiant mwyaf yr astudiaeth yw ei bod wedi cynhyrchu tystiolaeth gwbl bendant o fuddion cynyddol arferion iach i iechyd bobl. Er bod fwy neu lai pawb yn gwybod erbyn hyn, dyma oedd yr astudiaeth gyntaf i ddangos bod peidio â smygu, yfed ychydig o alcohol yn unig, cadw pwysau iach, bwyta diet cytbwys a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd yn lleihau risg pobl o gyflyrau fel diabetes, canser, clefyd y galon a dementia’n sylweddol. Dangosodd hefyd mai po fwyaf o’r arferion hyn roedd rhywun yn eu dilyn, mwyaf oll y budd.

Meddai’r Athro John Gallacher, cyfarwyddwr Dementias Platform UK, fu’n gweithio ar yr astudiaeth:

“Mae astudiaeth Caerffili wedi bod yn arloesol oherwydd amrywiaeth a dyfnder y darganfyddiadau y mae wedi’u cynhyrchu, gan gyhoeddi cannoedd lawer o bapurau gwyddonol.

“Mae’r astudiaeth yn dangos sut mae cymuned hael fel Caerffili’n gallu cael effaith wirioneddol ryngwladol.

“Mae cenhedlaeth newydd o astudiaethau mwy a manylach o’r boblogaeth wedi dod yn sgil y gwersi a ddysgwyd o astudiaeth Caerffili.

“Da iawn chi yng Nghaerffili!”

I gael y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol

*Credyd delwedd: Llyfrgell Prifysgol Caerdydd, Archif Cochrane, Ysbyty Athrofaol Llandochau*