Dr Jeff smiling at the camera.

Wythnos Ymwybyddiaeth Clefyd Parkinson: Ymchwilwyr o Gymru’n arwain y ffordd i wella diagnosteg a thriniaethau yn y dyfodol

14 Ebrill

Mae ymchwilwyr yng Nghymru yn arwain y ffordd wrth ddatblygu ffyrdd newydd o wneud diagnosis o Glefyd Parkinson (PD) a Dementia Clefyd Parkinson (PDD). Maent yn gobeithio defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu cyffur i atal clefyd Parkinson rhag datblygu i ddementia clefyd Parkinson.  

Mae niwrowyddonwyr yng Nghymru yn cynnal astudiaeth, gyda chefnogaeth Cyfleuster Ymchwil Clinigol ar y Cyd Sefydliad Gwyddorau Bywyd Abertawe (JCRF) sy'n cael rhywfaint o arian gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i arsylwi ymddygiad hormon stumog o'r enw ghrelin sy'n teithio i'r ymennydd ac yn rhwymo i brotein penodol.Pan fydd bwyd yn mynd i mewn i'r stumog, mae waliau'r stumog yn chwyddo ac mae'r effaith ymestyn honno'n actifadu celloedd nerfol sydd wedi'u hymgorffori yn leinin y stumog. Pan fydd y stumog yn wag, mae’r celloedd yn y stumog sy'n rhyddhau ghrelin, a elwir yn hormon newyn, ac mae'n teithio i'r ymennydd ac yn actifadu'r canolfannau bwydo yn yr ymennydd sy'n ysgogi newyn.

Gellir defnyddio lefel y ghrelin yn y gwaed fel offeryn neu fiomarcwr diagnostig i helpu i ddarparu diagnosis pendant o PDD heb ddefnyddio sganiau MRI neu PET. 

Dywedodd Dr Jeff Davies, niwrowyddonydd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: 

Rydym wedi bod yn astudio lefelau ghrelin mewn clefyd Parkinson ac rydym wedi dangos bod lefel yr hormon hwn yn y gwaed yn cael ei newid yn benodol mewn cleifion dementia Parkinson's. Trwy fesur lefelau ghrelin yn y gwaed, ein nod yw gwella diagnosis PDD.” 

Nod Dr Davies a'i dîm yw defnyddio'r wybodaeth hon i dargedu'r llwybr perfedd-i'r-ymennydd i arafu dilyniant dirywiad gwybyddol i ddementia yn y pen draw. I wneud hynny, mae angen targedu'r proteinau sy'n rheoleiddio'r broses hon. 

Yn ôl un astudiaeth, mae hyd at 70 y cant o bobl sy'n cael diagnosis o glefyd Parkinson yn dirywio ac yn datblygu dementia PD yn y pen draw. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw therapïau effeithiol i atal y dilyniant hwn.  

Ychwanegodd Dr Davies: 

Holl bwynt cyffur fyddai arafu'r dirywiad hwnnw, y llithro hwnnw i ddementia PD. Pe gallem wneud hynny, byddai'n wych. Byddai’n wych i gleifion a theuluoedd gan mai ychydig iawn o opsiynau sydd ar gael nawr.” 

Mae'r tîm ar hyn o bryd yn ceisio penderfynu a ellir ailadrodd yr un canlyniadau mewn cleifion sy'n cael diagnosis o fathau eraill o ddementia. Mae'r astudiaeth bresennol., sydd wedi’i ariannu â grant ymchwil oddi wrth Sefydliad Galen & Hilary Weston ,yn agored i bobl 60 oed neu hŷn, yn gyffredinol iach neu sydd wedi cael diagnosis o glefyd Alzheimer, clefyd Parkinson, neu Lewy Body Dementia. 

Gellir gweld gwybodaeth am gyfleoedd eraill i helpu gydag ymchwil neu gymryd rhan mewn ymchwil yn ein bwletin bob wythnos.