Ymchwil i lwybr ar gyfer pobl hŷn sydd â nam ar eu golwg i lywio cymorth a gwasanaethau
21 Medi
Mae astudiaeth yng Nghymru, wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, yn archwilio sut i wella bywydau pobl sy’n byw gyda nam ar eu golwg.
Mae tua 1.5 miliwn o bobl yn y DU, dros 65 oed yn byw gyda nam ar eu golwg yn ôl Age UK. Yn 2020, cafodd dros 1,000 o bobl hŷn yng Nghymru eu cofrestru’n ffurfiol fel rhai â nam ar eu golwg neu â nam difrifol ar eu golwg.
Nam ar y golwg yw un o’r cyflyrau mwyaf cyffredin sy’n achosi anabledd ymhlith pobl hŷn ac mae’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, gan gynnwys eu perthynas ag eraill a chysylltiadau cymdeithasol.
Dywedodd Dr Jennifer Acton, Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd, mai’r broblem i lawer o bobl hŷn â nam ar eu golwg oedd dod o hyd i’r math cywir o gymorth a chael y cyfle i fanteisio arno.
Bydd yr astudiaeth yn cynnwys adolygiad o’r ddarpariaeth gofal a chymorth bresennol, ac yn gwneud argymhellion ynghylch sut y mae modd cydgysylltu yr adnoddau presennol er mwyn eu defnyddio’n fwy effeithlon. Mae angen i Dr Acton glywed gan unigolion dros 60 oed sydd â nam ar eu golwg i ddeall yr heriau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt, yn ogystal â staff sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau i bobl hŷn â nam ar eu golwg.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr ymchwil, cysylltwch â Dr Jennifer Acton ar actonj@cardiff.ac.uk, neu gadewch neges ar 02920 870203 i gymryd rhan mewn arolwg neu gyfweliad.
Dywedodd hi: "Cyn dechrau’n prosiect, gwnaethon ni siarad â rhai pobl hŷn sydd wedi colli eu golwg yr oedd angen iddyn nhw wneud addasiadau i’w ffordd o fyw a chynnal eu hannibyniaeth. Fodd bynnag, nid yw’r cronfeydd data a’r adnoddau cenedlaethol bob amser yn cael eu cydgysylltu nac yn cael eu cynnal yn rheolaidd - nid oes llwybr clir i’r bobl fregus hyn ei lywio."
"Dywedodd un dyn hŷn ei fod wedi mynd i mewn i’r ystafell aros pan gafodd ei ddiagnosis am y tro cyntaf, a’i fod wedi’i lethu gan nifer fawr o daflenni, a’i fod yn meddwl tybed beth y byddai’n ei wneud nesaf. Mae dysgu am anawsterau’r unigolion hyn wir wedi ein hysbrydoli ni. Er bod gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi’r sefyllfaoedd hyn fel swyddogion cyswllt clinigau llygaid, rydyn ni’n gwybod nad oes digon ohonyn nhw o hyd."
Dywedodd Dr Acton fod eraill, gan gynnwys timau gofal proffesiynol, hefyd yn ei chael hi’n anodd cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i fynediad gan fod y sector gwirfoddol a gwasanaethau cymdeithasol yn esblygu.
“Gwnaethon ni glywed gan optometrydd golwg isel a oedd â chlaf a oedd yn gofyn am help gyda goleuadau. Roedd yn rhaid i’r optometrydd dreulio hanner awr ar y ffôn yn ystod amser cinio i ddod o hyd i’r rhif cyswllt cywir i gyfarwyddo’r unigolyn iddo.
Nid pobl hŷn yn unig sy’n cael trafferth cael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau - nid yw rhai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwybod hyd yn oed.
"Mae’n bwysig iawn ein bod yn clywed gan wahanol bobl y mae hyn yn effeithio arnyn nhw, gan gynnwys y grwpiau anodd eu cyrraedd hynny sy’n gaeth i’w cartrefi gyda phroblemau symudedd difrifol neu anabledd dysgu. Mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr hefyd ran fawr yn hyn. Rydyn ni eisiau cael safbwyntiau’r unigolion hyn er mwyn cael barn gytbwys."
Gwnaeth Dr Acton orffen drwy ddweud:
Byddwn ni’n dod ag adborth a chanlyniadau’r astudiaeth ynghyd, fel y gallwn ni gyflwyno’r rhain i lunwyr polisi ac arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y pen draw, rydyn ni’n gobeithio y bydd y prosiect yn sail dystiolaeth ar gyfer system sy’n addas ar gyfer y dyfodol."
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.
Darllenwch fwy am effaith yr ymchwil arweiniol rhyngwladol yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd.