Dau berson hŷn yn sgwrsio wrth fwrdd

Ymchwilwyr o Gymru yn dod â gobaith i bobl sy’n byw gyda chlefyd niwronau motor

21 Mehefin

I nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Clefyd Niwronau Motor (MND) byd-eang (21 Mehefin), gadewch i ni edrych ar y gwaith ymroddedig mae’r gymuned ymchwil yng Nghymru yn ei wneud i ddatblygu triniaethau a therapïau effeithiol i ddod â gobaith i bobl sy’n byw gyda’r clefyd.

Mae MND yn glefyd dirywiol sy’n datblygu’n gyflym. Mae’n ymosod ar y nerfau sy’n rheoli symudiad, yn achosi i’r cyhyrau wanhau a nychu, ac yn effeithio ar y rhan fwyaf o’r cyhyrau yn y corff. Yn y pendraw, mae’n golygu nad oes modd defnyddio’r breichiau a’r coesau. Ymhlith y symptomau eraill, mae hefyd yn ei gwneud hi’n anodd siarad, anadlu a llyncu.   

Nid oes unrhyw driniaeth effeithiol na gwellhad ar hyn o bryd, a gall claf fyw am rhwng dwy a phum mlynedd o’r cyfnod y bydd y symptomau’n dechrau. Mae bron i draen o bobl yn marw o fewn blwyddyn i’r diagnosis.  

Yn ne Cymru, mae Rhwydwaith Gofal MND De Cymru yn rhedeg 12 o glinigau i gefnogi pobl sy’n byw gydag MND mewn pum bwrdd iechyd. Mae’r Rhwydwaith yn derbyn 90 o gleifion sydd newydd gael diagnosis bob blwyddyn ar gyfartaledd. Erbyn diwedd 2021, roedd y Rhwydwaith wedi cefnogi 1,628 o gleifion a oedd wedi cael diagnosis o MND.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi astudiaethau MND yng Nghymru drwy nodi prosiectau MND newydd i’w hychwanegu at Bortffolio Ymchwil Cenedlaethol y DU, gan ddarparu llif o gyfleoedd ymchwil yn y dyfodol, a chydlynu’r gwaith o sefydlu a chymeradwyo astudiaethau yn y byrddau iechyd sy’n rhan o’r Rhwydwaith.

Cafodd Treial ar Hap Addasol Aml-fraich Systemig Clefyd Niwronau Motor (MND Smart), a lansiwyd yn gyntaf yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2022, ei gynllunio i ddod o hyd i feddyginiaethau a all arafu, stopio neu wrthdroi datblygiad MND yn gyflymach.

Yn ôl Dr Kenneth Dawson, Prif Ymchwilydd MND Smart, mae’r astudiaeth yn ymchwilio i dri chyffur – Memantine, Trazodone ac Amantadine – sy’n cael eu defnyddio’n glinigol yn barod ar gyfer cyflyrau eraill. Mae’r treial yn cael ei gydlynu yng Nghaeredin, ac mae Caerdydd yn un o nifer o ganolfannau yn y DU sy’n cymryd rhan.

Dywedodd Dr Dawson: “Hyd yn hyn, rydyn ni wedi llwyddo i recriwtio 34 o gleifion o bob rhan o ardal Rhwydwaith Gofal MND De Cymru. Gellir cysylltu â chleifion y rhan fwyaf o’r amser dros y ffôn neu o bell yn ôl y gofyn, sy’n golygu y gall unigolion o ardal ddaearyddol eang gymryd rhan.

“Dyma’r tro cyntaf i dreial ar gyfer cyffur MND gael ei gynnal yn lleol yng Nghymru, gan leihau’r angen i deithio i ganolfannau treialon eraill yn y DU a rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol i’r rhai sy’n byw gyda’r cyflwr yn ne Cymru.”

Mae Anthony Isaac, 75 oed o Gastell-nedd, a gafodd ddiagnosis o MND yn 2021, wedi bod yn cymryd rhan yn y treial ers mis Medi 2022. Mae’n cymryd chwistrell o’r cyffur drwy’r geg bob dydd.

Dywedodd: “Fe benderfynais i gymryd rhan yn y treial gan fy mod i eisiau byw gydag agwedd gadarnhaol. Roeddwn i’n gerddor, ac rwy’n dal i fwynhau gwrando ar gerddoriaeth a gwylio dramâu.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: 

Mae MND yn gyflwr dychrynllyd. Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd gwaith ymchwil ac mae’n wych ein bod ni wedi gweld cynnydd cyflym o ran ein dealltwriaeth o’r cyflwr ac o ran datblygu triniaethau posibl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

“Rwy’n ddiolchgar i bobl sy’n byw gydag MND yng Nghymru sydd eisiau cymryd rhan mewn gwaith ymchwil ac rwy’n falch eu bod nhw’n gallu cyrchu’r astudiaethau gyda help timau ym mhob rhan o’r wlad – gan gynnwys y timau MND yng nghanolbarth a gogledd Cymru, a Rhwydwaith Ymchwil a Gofal MND De Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynnydd pellach y bydd y gwaith ymchwil hwn yn ei wneud, a fydd yn arwain at driniaethau newydd ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl sy’n byw gyda’r clefyd hwn yng Nghymru a thu hwnt yn y dyfodol.”

Mae nifer yr achosion o’r clefyd yn y DU yn awgrymu y bydd dau neu dri pherson ym mhob 100,000 o’r boblogaeth yn datblygu MND bob blwyddyn. Bob dydd, mae chwe pherson yn cael diagnosis o MND ac mae chwe pherson yn marw oherwydd y clefyd.

Ar hyn o bryd, mae naw astudiaeth yn cael eu cynnal yng Nghymru, ac mae 262 o bobl yn cymryd rhan ynddynt.

Defnyddiwch y dolenni isod i ddysgu mwy am astudiaethau MND sydd ar ddod, gan gynnwys manylion cyfleoedd posibl i gymryd rhan.

I gael y newyddion diweddaraf am yr ymchwil sy’n cael ei chynnal yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.