Cymru yn hyrwyddo ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol menywod
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod (8 Mawrth) rydym yn dathlu’r ymchwil anhygoel sy’n digwydd ledled Cymru gyda’r nod o wella bywydau menywod a merched.
Er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf sy’n wynebu menywod, mae ymchwilwyr dawnus a gwirfoddolwyr benywaidd ysbrydoledig yn gweithio’n galed i ddatblygu triniaethau a gofal gwell ar gyfer clefydau fel canser y fron a COVID-19.
Dyma rai o’r ffyrdd y mae Cymru’n hyrwyddo ymchwil i fenywod:
Helpu menywod i drechu canser y fron
Yn 2002, fe wnaeth nyrsys ymchwil yn Abertawe recriwtio cleifion i dreial clinigol rhyngwladol, i ddarganfod a allai cyffur newydd, o'r enw Herceptin, helpu menywod â chanser y fron i fyw'n hirach.
Trawsnewidiodd y treial hwn gyfraddau goroesi menywod â chanser y fron HER2-positif, heddiw mae mwy nag 8 o bob 10 claf yn goroesi mwy na 10 mlynedd o ddiagnosis, diolch i'r ymchwil hwn sy'n newid bywydau.
Cafodd Kim Shears, a gymerodd ran yn yr astudiaeth hon yng Nghymru, ddiagnosis dros 20 mlynedd yn ôl. Meddai: “Rwy’n teimlo’n freintiedig o fod wedi cael y cyffur – y cyffur rhyfeddol hwn. Rwy'n credu ei fod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'm goroesiad.
“Rwyf hefyd yn teimlo’n falch iawn, trwy gymryd rhan yn yr astudiaeth, fy mod wedi gallu helpu pobl eraill, gobeithio.”
Darparu brechlynnau COVID-19 diogel ac effeithiol yn ystod beichiogrwydd
Yn 2021, canfu crynodeb o dystiolaeth ymchwil gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru fod menywod sy’n dal COVID-19 yn ystod beichiogrwydd mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael. Maent hefyd yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau beichiogrwydd fel genedigaeth gynamserol neu farw-enedigaeth.
Fodd bynnag, canfu’r gwaith hanfodol hwn hefyd fod brechlynnau COVID-19 yn ddiogel ac effeithiol o’u rhoi ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd ac wrth fwydo ar y fron. Derbyniodd mwy na 200,000 o fenywod ledled y DU ac UDA frechlynnau COVID-19 tra’u bod yn feichiog, heb unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y brechiad yn achosi niwed i’r plentyn yn y groth, yn cael effaith ar ffrwythlondeb, na’n peri risg i’r babi wrth fwydo ar y fron.
Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn ystod y pandemig
Yn ystod y pandemig roedd menywod, yn enwedig y rhai o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn wynebu mwy o berygl o gam-drin corfforol; hefyd roeddent â llai o fynediad at swyddi ac addysg ac roedd ganddynt iechyd a llesiant gwael.
Drwy eu hadolygiad o’r dystiolaeth ymchwil, roedd Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn gallu rhoi mewnbwn hanfodol i Gynllun Gweithredu newydd Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau.
Mae’r cynllun yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau y mae menywod a merched yn eu hwynebu ac yn nodi uchelgais Llywodraeth Cymru i gael mwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.
Lleihau gwaedu mawr ar ôl genedigaeth
Y llynedd, arweiniodd y prosiect gwella iechyd Cymreig gan Obstetric Bleeding Strategy (OBS) Cymru at i 160 o fenywod y flwyddyn osgoi'r angen am drallwysiad gwaed ar ôl rhoi genedigaeth, gyda chanllawiau gwaedlif ôl-enedigol yng Nghymru.
Lleihaodd y prosiect y niwed o waedlif ôl-enedigol trwy ddefnyddio rhestr wirio newydd yn ei gwneud yn ofynnol i fydwragedd fesur colli gwaed trwy gydol yr enedigaeth. Mae'r broses hon yn golygu bod bydwragedd yn gwybod cyn gynted ag y bydd claf yn gwaedu'n annormal.
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ymchwil iechyd a gofal diweddaraf sy'n digwydd yng Nghymru drwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr.